Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2022-23

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2020-21 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2022-23

Archwilio Cymru yw nod masnachu dau endid cyfreithiol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae gan bob un ei bwerau a'i ddyletswyddau penodol ei hun:

 

  • Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro ac yn rhoi cyngor i’r Archwilydd Cyffredinol.

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gosododd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hamcangyfrif ar gyfer 2022-23 (PDF, 442KB) gerbron y Senedd ym mis Tachwedd 2021.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei waith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF, 1MB) ar 22 Tachwedd 2021.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021

Dogfennau