Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/12/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Esgusododd Samuel Kurtz AS ei hun o eitem 2.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

2.1

SL(6)684 - Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)682 - Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Adolygu Penderfyniadau) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)685 - Rheoliadau Addysg (Cyrsiau Addysg Uwch Penodedig) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)689 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.4

SL(6)690 - Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)681 – Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.45 - 13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai mewn perthynas â chyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru.

5.2

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 4) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg.

5.3

Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau REACH (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(13.50 - 13.55)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyflawni: Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth Mark Isherwood AS: Ymateb yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil i adroddiad y Pwyllgor ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Mark Isherwood AS.

6.3

Gohebiaeth at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni: Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

(13.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.55 - 14.05)

8.

Y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn amodol ar newidiadau bach i'w cytuno gan y Cadeirydd y tu allan i'r Pwyllgor.

(14.05 - 14.15)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) yn amodol ar newidiadau bach i'w cytuno gan y Cadeirydd y tu allan i'r Pwyllgor.

(14.15 - 14.20)

10.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar drefn ystyried trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru).

(14.20 - 14.25)

11.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan Ymchwil y Senedd ar y Cytundebau Rhyngwladol diweddaraf a osodwyd yn Senedd y DU, a chytunwyd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(14.25 - 14.55)

12.

Craffu ar y Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Esgusododd Samuel Kurtz AS ei hun o drafod yr adroddiad drafft hwn. Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mercher 17 Rhagfyr i'w drafod ymhellach.