Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/11/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(11.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau na dirprwyon. Esgusododd
Samuel Kurtz AS ei hun o eitemau 2 i 4. |
|
(11.30 - 12.30) |
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau),
fel y’i cyflwynwyd Julie James AS, y
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni Ryan Price,
Pennaeth Polisi y Senedd, Llywodraeth Cymru Will Whiteley,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru Anna Hind, Uwch-gyfreithiwr,
Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. |
|
(12.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 11, 12 a 13 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.30 - 12.45) |
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y
sesiwn dystiolaeth. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 Dogfennau ategol: |
|
|
SL(6)665 – Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2025 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
|
SL(6)670 - Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) (Diwygio) 2025 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
|
SL(6)666 - Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 - 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
|
SL(6)667 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Nododd y
Pwyllgor hefyd yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol at y Llywydd. |
||
|
SL(6)669 – Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)671 - Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)672 - Rheoliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (Tapro, Hawliau i Daliadau a Chau) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.45 – 13.50) |
Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
|
SL(6)648 – Rheoliadau Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
|
SL(6)663 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 2) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
|
SL(6)664 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 3) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. |
||
(13.50 - 13.55) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
|
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd grwpiau rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ohebiaeth a hysbysiadau gan Lywodraeth
Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd: y Grŵp Rhyngweinidogaethol ar gyfer Sero
Net, Ynni a Newid Hinsawdd; Cyfarfod Gweinidogol Sector Gwaith Blynyddoedd
Cynnar Cyngor Prydain-Gwyddelig; a’r Grŵp Rhyngweinidogaethol ar Gyfiawnder. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Cyfnodau Diogelu Data) (Diwygio) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 2) 2025 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Adroddiadau blynyddol Ysgrifenyddiaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol Annibynnol (IGR) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
(13.55 - 14.00) |
Papurau i'w nodi |
|
|
Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
|
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Ysgolion Cynradd a Gynhelir) (Cymru) 2025 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. |
||
(14.00 - 14.30) |
Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd i
ystyried adroddiad diwygiedig ar ddyddiad yn y dyfodol. |
|
(14.30 - 14.45) |
Y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i
drafod fersiwn ddiwygiedig o’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf. |
|
(14.45 - 14.55) |
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Tybaco a Fêps Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Tynnodd Llywodraeth Cymru y Memorandwm yn ôl wedi hynny. |
PDF 240 KB