Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.45)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Samuel Kurtz AS ac roedd Tom Giffard AS yn bresennol fel dirprwy.

Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS, ac roedd Hannah Blythyn AS yn dirprwyo ar gyfer eitemau 1 i 4.

(10.45 – 11.30)

2.

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), fel y'i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Ben Henriques, Uwch Gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

Amira Evans, Pennaeth Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru

Jane Peffers, Pennaeth Polisi Iaith Arwyddion Prydain, Llywodraeth Cymru

 

Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar Senedd.tv

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: 4, 11 a 12.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(11.30 - 11.45)

4.

Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

(12.30 - 13.25)

5.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

Mark Hand, Cyfarwyddwr Cymru, Gogledd Iwerddon a Cymorth Cynllunio Lloegr, Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

Rhian Brimble, Swyddog Polisi (Cymru), Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru.

(13.30 - 14.25)

6.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd

Annabel Graham Paul, Chymdeithas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd.

(14.30 – 14.35)

7.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

12.1

SL(6)650 - Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

7.1

SL(6)651 - Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

7.2

SL(6)652 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

(14.35 - 14.40)

8.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

8.1

SL(6)645 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

8.2

SL(6)635 - Rheoliadau Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Cywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(14.40 – 14.45)

9.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

9.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg mewn perthynas â chyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid sydd i’w gynnal ar 17 Hydref.

(14.45 – 14.50)

10.

Papurau i’w nodi

10.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Goblygiadau ariannol y Bil Cynllunio (Cymru) a'r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

10.2

Gohebiaeth at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Trosedd a Phlismona.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

10.3

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) Llywodraeth Cymru ar y Bil Iechyd Meddwl.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 6) ar y Bil Iechyd Meddwl wedi ei osod. Cytunodd y Pwyllgor, oherwydd y dyddiad cau byr ar gyfer adrodd, i beidio ag adrodd ar y Memorandwm.

10.4

Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwygio'r fframwaith deddfwriaethol yng Nghymru i ddarparu amddiffyniad ychwanegol i afancod Ewropeaidd (Castor fiber) yng Nghymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

10.5

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad: Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 a'r canllawiau statudol cysylltiedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

10.6

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dilyn gwaith craffu cyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i rannu’r llythyr â’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

(14.50 – 15.10)

11.

Y Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a Chymdeithas y Bar ar Gynllunio a'r Amgylchedd.

(15.10 – 15.15)

12.

Cytundebau Rhyngwladol: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.