Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(15.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(15.00 – 15.05)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7

2.1

SL(6)696 - Gorchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)698 – Cod Ymarfer Treuliau Etholiadau Ymgeiswyr Unigol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.3

SL(6)699 – Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.4

SL(6)700 - Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Ymgyrchwyr Nad Ydynt yn Bleidiau (Etholiadau’r Senedd) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Cod a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i dynnu sylw at anghysondebau rhwng testun Cymraeg a thestun Saesneg is-ddeddfwriaeth a drafodwyd gan y Pwyllgor.

(15.05 – 15.10)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)694 - Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Symiau Trothwy) (Diwygio) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)697 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Newid Rhestrau ac Apelau) (Diwygio) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)701 - Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (Parhau) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.4

SL(6)702 - Rheoliadau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) (Diwygio) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.5

SL(6)703 - Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Costau Ardoll Ymwelwyr) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(15.10– 15.15)

4.

Offerynnau sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)677 - Rheoliadau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaeth Drosiannol, Darpariaeth Ddirymu a Darpariaeth Arbed) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

4.2

SL(6)692 - Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darparu Gwybodaeth am Newidiadau mewn Amgylchiadau) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

4.3

SL(6)693 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Disgowntiau, Diystyriadau ac Esemptiadau) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(15.15 - 15.20)

5.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes

(15.20 – 15.25)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth Brif Weinidog Cymru: Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Treftadaeth Geltaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Brif Weinidog Cymru.

(15.25 – 15.30)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

7.2

Gohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

7.3

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a'r Llysoedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

7.4

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Mabwysiadu penderfyniadau digonolrwydd data newydd y DU gan y Comisiwn Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.

(15.30)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 9, 10, 13 a 14

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(15.30 -15.40)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(15.40 -15.55)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a nododd ei ohebiaeth at y Pwyllgor Busnes. Cytunodd y Pwyllgor i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(16.00 - 16.15)

11.

Bil Cynllunio (Cymru) - Trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

James George, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Dion Thomas, Pennaeth Deddfwriaeth a Pherfformiad, Cyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru

 

 

Ar 15 Rhagfyr 2025, cytunodd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 26C.27, mai’r drefn ar gyfer trafodion fyddai:

 

adran 3 i adran 109; Atodlen 1 i Atodlen 11; adran 110 i adran 205; Atodlen 13; adran 206 i adran 220; Atodlen 12 ac Atodlen 14 i Atodlen 16; adran 221 i adran 302; Atodlen 17; adran 303 i adran 322; Atodlen 18; adran 323 i adran 359; Atodlen 19; adran 360 i adran 410; Atodlen 20; adran 2; adran 1; a'r teitl hir.

 

 

Dogfennau ategol:

Rhestr o welliannau wedi'u didoli

Grwpio gwelliannau

Bil Cynllunio (Cymru) (fel y'i cyflwynwyd)

Memorandwm Esboniadol

 

 

Cofnodion:

Roedd Mark Isherwood yn absennol pan drafodwyd gwelliannau i’r Bil Cynllunio (Cymru) a phan gynhaliwyd pleidlais arnynt. 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:  

 

Gwaredwyd gwelliannau 1 a 2 gyda’i gilydd.

 

Derbyniwyd gwelliannau 1 a 2 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gan fod pob gwelliant wedi’i waredu, cadarnhaodd y Cadeirydd fod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar gyfer y Bil wedi’u cwblhau. 

 

(16.15 - 16.45)

12.

Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) - Trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

James George, Uwch Gwnsler Deddfwriaethol, Llywodraeth Cymru

Dion Thomas, Pennaeth Deddfwriaeth a Pherfformiad, Cyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru

 

 

Ar 15 Rhagfyr 2025, cytunodd y Pwyllgor, o dan Reol Sefydlog 26C.27, mai’r drefn ar gyfer trafodion fyddai:

 

Adran 1 ac adran 2; Atodlen 1 i Atodlen 4; adran 3; Atodlen 5; adran 4 i adran 6; a’r teitl hir.

 

Dogfennau ategol:

Rhestr o welliannau wedi'u didoli

Grwpio gwelliannau

Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) (fel y’i cyflwynwyd)

Memorandwm Esboniadol

 

 

Cofnodion:

Roedd Mark Isherwood yn absennol pan drafodwyd gwelliannau 1 i 19 i’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) a phan gynhaliwyd pleidlais arnynt. 

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:  

 

Derbyniwyd gwelliant 1 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 2 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gwaredwyd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 gyda’i gilydd.

 

Derbyniwyd gwelliannau 4, 5, 6 a 7 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 8 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 9 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 10 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 11 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 12 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 13 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 14 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 15 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 16 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 17 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 18 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 19 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 20 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 21 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Derbyniwyd gwelliant 22 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). 

 

Gan fod pob gwelliant wedi’i waredu, cadarnhaodd y Cadeirydd fod trafodion Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor ar gyfer y Bil wedi’u cwblhau. 

 

(16.45 - 16.50)

13.

Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru): Camau nesaf Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau i drafod adroddiad drafft ar ei ystyriaeth o’r Bil Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

(16.50 - 17.00)

14.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2 a Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.