Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy
Cyflwynwyd y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy
(y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 14 Mai 2025.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi ei fod yn Fil i wneud darpariaeth ynghylch tanwydd hedfan
cynaliadwy.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil yn
y Cyfarfod Llawn ar 20 Ionawr 2026.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Ionawr 2026
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 389KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 7 Ionawr 2026.
Ar 13 Tachwedd
2025 mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Rhif 3 at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 20 Ionawr 2026
(PDF 77KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 235KB) ar 20 Ionawr 2026.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 197KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 04 Tachwedd 2025.
Ar 11 Tachwedd
2025, mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Rhif 2 at
y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 16
Ionawr 2026 (PDF 78KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 235KB) ar 20 Ionawr 2026.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mehefin 2025
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd
ar 9
Mehefin 2025 (PDF 390KB).
Ar 17 Mehefin
2025, cytunodd y Pwyllgor
Busnes i wahodd Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried a chyflwyno adroddiad
i’r Senedd erbyn 26 Medi 2025
(PDF 42KB).
Cafodd y dyddiad
ar gyfer cyflwyno adroddiad ar femoranda yn ymwneud â’r Bil hwn ei ymestyn gan
y Pwyllgor Busnes i 16 Ionawr 2026
ac yna i 20
Ionawr 2026.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 207KB) ar 23 Gorffennaf 2025.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei adroddiad
(PDF 129KB) ar 19 Ionawr 2026.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2025