Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/06/2025 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 – 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(6)615 - Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

2.2

SL(6)616 – Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 – 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)493 - Rheoliadau Caffael (Cymru) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

3.2

SL(6)608 - Gorchymyn y Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) (Diwygio) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

(13.40 – 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r cyfarfodydd a ganlyn: y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig; y Grŵp Rhyngweinidogol ar Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol; Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau; y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach; a chyfarfod Gweinidogol Amgylchedd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.

4.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 3) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(13.45 – 13.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Adroddiad Llywodraeth Cymru ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith 2024-25

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

5.2

Datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Uwchgynhadledd yr UE a’r DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

5.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Pwyllgor Busnes: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at y Pwyllgor Busnes.

5.4

Cyflwyniad ar gyfer ymchwiliad Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi i graffu ar gytuniadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ei gyflwyniad ar gyfer ymchwiliad Pwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi i graffu ar gytuniadau.

(13.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 – 14.00)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill), a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ystod ei gyfarfod nesaf. Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.

(14.00 – 14.10)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona a chytunodd ar ei adroddiad drafft.

(14.10 – 14.15)

9.

Cytundebau Rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.15 – 14.20)

10.

Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.