Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS ac Adam Price AS. Croesawodd y Pwyllgor Hannah Blythyn AS a oedd yn dirprwyo ar ran Alun Davies AS, a Sian Gwenllian a oedd yn dirprwyo ar ran Adam Price AS.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(6)538 - Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd ar bwynt adrodd o ran rhinweddau pellach. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.2

SL(6)542 – Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau Etc.) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

2.3

SL(6)539 - Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

Cofnodion:

Nid oedd dim eitemau i'w hystyried.

(13.40 - 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog.

4.2

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd Grwpiau Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn cysylltiad â’r cyfarfod a gaiff ei gynnal yn fuan o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

(13.45 - 13.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig  gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

5.2

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Bil Tybaco a Fêps

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.

5.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

(13.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 - 13.55)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 - Y dull o graff

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft at Lywodraeth Cymru, a chytunodd arno.

(13.55 - 14.00)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus)

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Rheilffyrdd Teithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru.