Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. 

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

2.1

SL(6)484 - Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 – 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

3.1

SL(6)474 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.40 – 13.45)

4.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

4.1

Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas â chanslo’r Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch y  Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol.

4.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Gweinidogion Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

(13.45 – 13.50)

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol: Cywiriadau i Offerynnau Statudol cadarnhaol drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a chytunodd i ymateb maes o law.

5.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfiawnder Troseddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

5.3

Gohebiaeth gan Adam Price AS: Prison Parc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Adam Price AS a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cymreig o ystyried ei ymchwiliad parhaus i garchardai yng Nghymru.

5.4

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

(13.50)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 – 14.05)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.05 – 14.20)

8.

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memoranda Rhif 3 a Rhif 4) ar y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad.

(14.20 - 15.20)

9.

Deddfwriaeth fframwaith: Sesiwn ar waith ymchwil a gomisiynwyd gan yr Athro Richard Whitaker

Yr Athro Richard Whitaker (Prifysgol Caerlŷr)

Hedydd Mai Phylip (Prifysgol Caerdydd)

Yr Athro Diana Stirbu (Prifysgol Fetropolitan Llundain)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Athro Diana Stirbu.

Trafododd y Pwyllgor y papur ymchwil a chlywodd dystiolaeth gan yr Athro Richard Whitaker a Hedydd Mai Phylip.