Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/05/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(09.00 - 09.05) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau i'w hystyried. |
|
(09.05 - 09.10) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru: Grwpiau Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a daeth i law mewn
perthynas â chyfarfodydd y canlynol: ·
Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo; ·
Y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer y Diwydiannau
Creadigol a Diwylliant; a’r ·
Grŵp Rhyngweinidogol Sero-Net,
Ynni a Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar: Rheoliadau Honiadau Iechyd (Dirymu) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd
Meddwl a'r Blynyddoedd Cynnar. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion
Gwledig. |
||
(09.10 - 09.15) |
Papurau i'w nodi |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dioddefwyr a
Charcharorion. |
||
Gohebiaeth gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol at Brif Weinidog Cymru: Gwaith craffu blynyddol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol at Brif Weinidog Cymru. |
||
(09.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(09.15 - 09.25) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol. |
|
(09.25 - 09.35) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes mewn
perthynas â Rheol Sefydlog 29. |
|
(09.35 - 09.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y
dyfodol. |
|
(09.55 - 10.10) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft
ar y Bil Rhentwyr (Diwygio), yn amodol ar fân
newidiadau. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes mewn
perthynas â Rheol Sefydlog 29. |
|
(10.10 - 10.20) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Gohebiaeth ddrafft at y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor a chytunodd ar lythyr i'w anfon at y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(10.20 - 10.30) |
Cytundebau Rhyngwladol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn: ·
DU/Denmarc: Cytundeb ar gyfranogiad gwladolion y ddwy
wlad sy'n byw yn nhiriogaeth y llall mewn etholiadau penodol; ·
Sefydliad Coedwig y DU/Ewrop: Cytundeb Gwlad
Lletyol; ·
Confensiwn ar Sefydlu'r 'Rhaglen Brwydro Aer
Byd-eang – GCAP Sefydliad Llywodraeth Rhyngwladol'; ·
DU/Hwngari: Cytundeb ynghylch Diogelu Gwybodaeth
Gyfrinachol; ·
Cytundeb Gwasanaethau Awyr y DU-Sawdi Arabia; ·
DU/Bahrain: Cytundeb ynghylch Gwasanaethau Awyr; ·
Cytundeb yr Hâg ar Ddyfarniadau Tramor; a’r ·
Banc Rhyngwladol ar gyfer Ailadeiladu: Diwygio
Erthyglau Cytundeb y Banc Rhyngwladol ar gyfer Ailadeiladu a Datblygu (IBRD) i
ddileu'r Terfyn Benthyca Statudol (SLL). Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y
cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(10.30 - 10.40) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd a chytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i wahodd y Gweinidogion gyda phortffolios sy'n
berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor i sesiynau craffu cyffredinol. Cytunodd
y Pwyllgor hefyd i wahodd Swyddfa'r Farchnad Fewnol i sesiwn dystiolaeth yn
nhymor yr haf. |