Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:00 - 13.05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS. Luke Fletcher AS oedd yn dirprwyo ar ei ran.

(13.05 – 13.10)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 3, 10, 11 a 12.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.10 – 13.30)

3.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn friffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).

(13.30 - 14.30)

4.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Sesiwn dystiolaeth

Jane Hutt MS, Trefnydd a’r Prif Chwip

William Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio’r Senedd, Llywodraeth Cymru

Anna Hind, Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru

 

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), fel y’i cyflwynwyd

Memorandwm Esboniadol

Datganiad y Llywydd: 11 Mawrth 2024

Datganiad o Fwriad y Polisi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AS, y Trefnydd a’r Prif Chwip.

(14.35 – 14.40)

5.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Dogfennau ategol:

5.1

SL(6)482 - Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(14.40 – 14.45)

6.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

6.1

SL(6)479 - Rheoliadau Archwilwyr Meddygol (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

6.2

SL(6)480 - Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

6.3

SL(6)481 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

(14.45 – 14.50)

7.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

7.1

SL(6)477 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(14.50 – 14.55)

8.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

8.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd Grwpiau Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg mewn perthynas â’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach.

8.2

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

8.3

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a'r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

8.4

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(14.55 – 15.00)

9.

Papurau i'w nodi

9.1

Gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, a chytunodd i ymateb maes o law.

9.2

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd cyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastigau a fêps untro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

9.3

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diweddariad ar ddatblygu Cynllun Dychwelyd Ernes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

(15.00 – 15.20)

10.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan Jane Hutt AS, y Trefnydd a'r Prif Chwip, a chytunodd ar faterion allweddol i'w cynnwys yn ei adroddiad, a fyddai'n cael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

(15.20 – 15.50)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(15.50 – 16.05)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod drafft diwygiedig mewn cyfarfod yn y dyfodol.