Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 325 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2026 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, gwnaeth y Llywydd hysbysu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 21 Ionawr.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.       
Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.       
Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.25

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I’w ateb gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru yn sgil Cyfraith arfaethedig Hillsborough?

 

I’w ateb gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gwaith gwaddol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r Tour de France yn dod i Gymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20 

Atebwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig 
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y goblygiadau i Gymru yn sgil Cyfraith arfaethedig Hillsborough?  

Atebwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol 

Heledd Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y gwaith gwaddol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yng ngoleuni'r Tour de France yn dod i Gymru?

(0 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad.

(30 munud)

5.

Dadl y Pwyllgor Cyllid: Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

NDM9110  Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2025.

Sylwch: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2026.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.47 

NDM9110  PeredurOwen Griffiths(DwyrainDe Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ‘Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019’ aosodwydyn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2025. 

Noder:Gosodwydymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Ionawr 2026. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Atal iechyd gwael - gordewdra

NDM9111 Peter Fox (Mynwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Atal iechyd gwael - gordewdra’ a osodwyd ar 8 Hydref 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2025.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.12

NDM9111 Peter Fox (Mynwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Atal iechyd gwael - gordewdra’ a osodwyd ar 8 Hydref 2025.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hosbisau

NDM9112 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae'r sector hosbis a gofal lliniarol yn ei wneud wrth ddarparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel i deuluoedd.

2. Yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail ar hosbisau yng Nghymru o ganlyniad i gynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, prinder gweithlu, a'r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

3. Yn gresynu bod arolwg diweddar o hosbisau yng Nghymru a gynhaliwyd gan Hospice UK wedi canfod:

a) bod 30 y cant eisoes yn lleihau gwelyau neu'n torri gwasanaethau;

b) bod dros 70 y cant sydd ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau dros dro neu'n barhaol; ac

c) bod tri chwarter yr hosbisau yn ofni y byddant yn cael eu gorfodi i dynnu nôl y cymorth y maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai a chartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model ariannu cynaliadwy newydd ar gyfer hosbisau yng Nghymru, gan gynnwys £40 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Senedd nesaf.

Welsh palliative and end of life care services at risk due to broken funding model, Hospice UK (Saesneg yn unig)

Cyflwynwydygwelliantaganlyn:     
Gwelliant
 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:  

Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK.

Yn croesawu:

a) y cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau gan Lywodraeth Cymru dros dymor y Senedd hon; a

b) y gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau i ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM9112 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae'r sector hosbis a gofal lliniarol yn ei wneud wrth ddarparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel i deuluoedd.

2. Yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail ar hosbisau yng Nghymru o ganlyniad i gynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, prinder gweithlu, a'r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

3. Yn gresynu bod arolwg diweddar o hosbisau yng Nghymru a gynhaliwyd gan Hospice UK wedi canfod:

a) bod 30 y cant eisoes yn lleihau gwelyau neu'n torri gwasanaethau;

b) bod dros 70 y cant sydd ag unedau cleifion mewnol yn disgwyl i o leiaf un gwely gau dros dro neu'n barhaol; ac

c) bod tri chwarter yr hosbisau yn ofni y byddant yn cael eu gorfodi i dynnu nôl y cymorth y maen nhw'n ei ddarparu ar hyn o bryd i ysbytai a chartrefi gofal.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu model ariannu cynaliadwy newydd ar gyfer hosbisau yng Nghymru, gan gynnwys £40 miliwn yn ychwanegol dros dymor y Senedd nesaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

2

24

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:  

Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK.

Yn croesawu:

a) y cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau gan Lywodraeth Cymru dros dymor y Senedd hon; a

b) y gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau i ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

2

22

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod y gwaith eithriadol y mae'r sector hosbis a gofal lliniarol yn ei wneud wrth ddarparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel i deuluoedd.

2. Yn cydnabod y pwysau ariannol digynsail ar hosbisau yng Nghymru o ganlyniad i gynnydd mewn Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, prinder gweithlu, a'r galw cynyddol am eu gwasanaethau.

3. Yn cydnabod canfyddiadau arolwg Hospice UK.

4. Yn croesawu:

a) y cynnydd o £21 miliwn i gyllid hosbisau gan Lywodraeth Cymru dros dymor y Senedd hon; a

b) y gwaith sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a'r sector hosbisau i ddatblygu model cyllido cynaliadwy.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

2

21

48

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

 

(10 munud)

8.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr oedi i waith Cam 2 ar Bont Menai?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.04

Cafodd y Cwestiwn Amserol canlynol ei dderbyn gan y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.68A a 12.68B.

Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr oedi i waith Cam 2 ar Bont Menai?

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.15

 

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM9113 Lee Waters (Llanelli) 

Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.17

NDM9113 Lee Waters (Llanelli) 

Yr angen am gynllun cenedlaethol i wella gwasanaethau syndrom Tourette

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: