Pobl y Senedd

Peredur Owen Griffiths AS

Peredur Owen Griffiths AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyrain De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Gaza - ymateb Cymreig.

I'w drafod ar 24/04/2024

Beth yw disgwyliadau'r Ysgrifennydd Cabinet o gwmnïau o ran darparu buddion cymunedol diriaethol mewn perthynas â phrosiectau cynhyrchu ynni?

Wedi'i gyflwyno ar 24/04/2024

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi teuluoedd yng Nghymru y mae'r sefyllfa yn Gaza yn effeithio arnynt?

Wedi'i gyflwyno ar 18/04/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn cynorthwyo dinasyddion Cymru sy'n cefnogi aelodau o'r teulu sy'n ffoi rhag y gwrthdaro yn Gaza?

Wedi'i gyflwyno ar 17/04/2024

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch sicrhau bod datblygwyr prosiectau mawr yn cyflawni eu rhwymedigaethau contractiol?

Wedi'i gyflwyno ar 16/04/2024

Faint o arian ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan Lywodraeth y DU ers 5 Mawrth 2024?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Peredur Owen Griffiths AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Yn fab i weinidog, roedd Peredur eisoes wedi byw mewn sawl rhan wahanol o Gymru cyn iddo fynd i ysgol uwchradd Glan Clwyd yn Llanelwy, gan gynnwys Pumsaint yn Sir Gaerfyrddin, Moelfre yn Ynys Môn, Licswm yn Sir y Fflint. Mae gan Peredur Radd Meistr mewn Peirianneg Systemau Rheoli o Brifysgol Sheffield, ac mae bellach yn byw yng Nghaerffili.

Cefndir proffesiynol

Fel myfyriwr yn Sheffield, cymerodd Peredur swydd ym maes bancio. Ar ôl cwblhau ei radd, aeth Peredur ar drywydd cyflym i fod yn Rheolwr Banc i Santander, a llwyddodd i symud yn ôl i Gymru i gwblhau ei hyfforddiant. Tra gyda Santander, bu Peredur yn gweithio mewn canghennau ledled de Cymru, gan gynnwys Casnewydd, Mynwy, Caerffili, Merthyr Tudful, y Coed Duon, Cwmbrân, y Barri, Tonypandy, a Chaerdydd. Ar ôl Santander, daeth Cymdeithas Adeiladu Principality, lle bu Peredur yn gweithio fel Rheolwr Datblygu Busnes ar gyfer cangen morgeisi preswyl y busnes. Ar ôl 13 mlynedd yn y sector ariannol, ymunodd Peredur â Cymorth Cristnogol fel Cydgysylltydd Rhanbarthol De Cymru a Swyddog Etifeddiaeth Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, ymunodd â Bwrdd Cyfarwyddwyr Alltudion ar Waith, elusen sy'n gweithio i leoli ffoaduriaid. Ei gam nesaf oedd ymuno â Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru, lle bu'n gweithio gyda nifer o grwpiau ffydd ledled Cymru.

Hanes gwleidyddol

Mae Peredur wedi bod yn Gynghorydd Cymunedol ar gyfer Trecenydd yng Nghaerffili ers 2017 ac wedi gwasanaethu am ddwy flynedd fel Cadeirydd Cyngor Cymunedol Penyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd Etholaeth Caerffili Plaid Cymru. Yn ymgyrchydd am gyfnod hir dros Plaid Cymru, etholwyd Peredur i'r Senedd y tro cyntaf iddo sefyll yn yr etholiad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Peredur Owen Griffiths AS