Atal iechyd gwael - gordewdra

Atal iechyd gwael - gordewdra

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad i atal iechyd gwael – gordewdra.

 

Y cefndir

Cydnabyddir gordewdra fel un o’r heriau iechyd cyhoeddus mwyaf arwyddocaol, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae nifer yr achosion ar gynnydd yng Nghymru (ac mewn mannau eraill), gyda chymunedau mwyaf difreintiedig yn gweld lefelau llawer yn uwch o ordewdra.

 

Mae gordewdra yn ffactor risg allweddol ar gyfer ystod eang o glefydau cronig, gan gynnwys diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, clefyd cardiofasgwlaidd (gan gynnwys strôc), a rhai canserau. Mae hefyd yn effeithio ar lesiant pobl, ansawdd eu bywyd, a’u gallu i weithio.

 

Yn ôl amcangyfrif blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, cost gordewdra i’r GIG yng Nghymru yw £73 miliwn. Erbyn 2050, amcangyfrifir y bydd y ffigur yn codi i £465 miliwn. Yr amcangyfrif yw y bydd y gost ehangach i gymdeithas ac economi Cymru erbyn 2050 yn £2.4 biliwn.

 

Mae hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a mesurau atal afiechydon ymysg y materion blaenoriaeth a nodwyd yn strategaeth y Pwyllgor ar gyfer y Chweched Senedd. Felly, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y cylch gorchwyl isod;

 

Effeithiolrwydd strategaeth, rheoliadau, a chamau gweithredu cysylltiedig Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru, gan gynnwys ystyried:

 

>>>> 

>>>bylchau/meysydd i'w gwella yn y polisi presennol a'r fframwaith rheoleiddio presennol (gan gynnwys mewn cysylltiad â bwyd/maeth ac ymarfer corff;

>>>effaith penderfynyddion cymdeithasol a masnachol ar ordewdra;

>>>ymyriadau mewn beichiogrwydd a phlentyndod cynnar i hyrwyddo maeth da ac osgoi gordewdra;

>>>y stigma a'r gwahaniaethu a ddioddefir gan bobl sydd dros bwysau/sy’n ordew;

>>>gallu pobl i gael mynediad at wasanaethau cymorth a thriniaeth priodol ar gyfer gordewdra;

>>>y berthynas rhwng gordewdra ac iechyd meddwl;

enghreifftiau rhyngwladol o lwyddiant (gan gynnwys perthnasedd posibl i gyd-destun Cymru).

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu teimladau’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Rydym yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig ar hyn o bryd. Y dyddiad cau yw 7 Mehefin 2024.

 

Mae gwybodaeth am sut i roi eich barn ar gael ar dudalen yr ymgynghoriad.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2024

Ymgynghoriadau