Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019
Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019
Inquiry4
Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal adolygiad
ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gosododd y
Pwyllgor Cyllid ei adroddiad
(PDF 3.7MB) ar 10 Hydref 2025. Ymatebodd
(PDF 348 KB) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 5
Rhagfyr 2025.
Cefndir
Mae Deddf
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Deddf 2019) yn ei gwneud yn
ofynnol i’r Senedd gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol cyn gynted ag y bo’n
ymarferol ar ôl 21 Mai 2024 (sef pum mlynedd ers i Ddeddf 2019 gael Cydsyniad
Brenhinol).
Fel y Pwyllgor
sy’n gyfrifol am oruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (‘yr
Ombwdsmon’) fel y nodir o dan Reol
Sefydlog 18A, y Pwyllgor Cyllid sy’n gyfrifol am adolygu Deddf 2019.
Cylch gorchwyl
Bydd adolygiad y
Pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
>>>>
>>>Gweithrediad
ac effeithiolrwydd Deddf 2019 hyd yma ac a yw wedi gwella rôl Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) a chynyddu hyder y cyhoedd ynddo.
>>>Y
ffordd y caiff y broses o dderbyn cwynion llafar gan yr Ombwdsmon ei
chymhwyso’n ymarferol ac a yw gallu’r Ombwdsmon i nodi gofynion ar gyfer gwneud
cwyn mewn canllawiau wedi gwella cyfiawnder cymdeithasol a chyfle cyfartal i
ddinasyddion Cymru.
>>>Sut
mae’r Ombwdsmon wedi arfer y pŵer
i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ac a yw’r pŵer hwn wedi darparu mecanwaith i amddiffyn y rhai
sydd fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
>>>Pa
mor effeithiol yw gallu’r Ombwdsmon i ymchwilio i driniaeth feddygol breifat
(gan gynnwys gofal nyrsio) ar lwybr iechyd cyhoeddus/preifat.
>>>Rôl
yr Ombwdsmon mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau ymdrin â chwynion ac i ba
raddau y mae darpariaethau Deddf 2019 wedi gwella’r modd y mae cyrff o fewn
awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn ymdrin â chwynion.
>>>I ba
raddau y mae amcanion polisi Deddf 2019 wedi’u bodloni, unrhyw ddatblygiadau yn
y pum mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf a sut mae’r Ddeddf yn cymharu ag arfer
gorau presennol.
>>>Costau
a buddion Deddf 2019, sut mae’r rhain yn cymharu â’r amcangyfrifon a nodir yn y
Memorandwm Esboniadol a ph’un a gyflawnwyd gwerth am arian.
<<<
Sesiynau
tystiolaeth
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.tv |
|
|
Sesiwn
dystiolaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru |
|
|
|
Sesiynau
tystiolaeth |
|
|
|
|
Sesiynau
tystiolaeth |
|||
|
Sesiynau
tystiolaeth |
|
|
Math o fusnes: Arall
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/01/2025
Dogfennau
- Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro'r Alban: Ymateb i gwestiynau dilynol (Saesneg yn unig) - 18 Mehefin 2025
PDF 124 KB - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip - Ymateb i gwestiynau – 11 Mehefin 2025
PDF 152 KB - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon: Ymateb i gwestiynau dilynol (Saesneg yn unig) – 4 Gorffennaf 2025
- Llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Dros Dro'r Alban: Cwestiynau dilynol (Saesneg yn unig) - 14 Mai 2025
PDF 90 KB - Llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon: Cwestiynau dilynol - (Saesneg yn unig) 14 Mai 2025
PDF 92 KB - Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif chwip: Cwestiynau dilynol - 9 Mai 2025
PDF 130 KB - Llythyr at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Cwestiynau dilynol - 2 Mai 2025
PDF 104 KB - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru- 5 Rhagfyr 2025
PDF 348 KB
Ymgynghoriadau