Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 319
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/12/2025 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd
Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.10 Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a
Gogledd Cymru Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gau
Terminws 5 ym Mhorthladd Caergybi? |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a
Gogledd Cymru Cofnodion: The
item started at 15.10 Answered
by the Cabinet Secretary for
Transport and North Wales Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Will the Cabinet Secretary make a statement on the closure of
Terminal 5 at Holyhead Port? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.24 Gwnaeth
Mark Isherwood ddatganiad ar Ymgyrch Nadolig ymwybyddiaeth strôc. Gwnaeth
Llyr Gruffydd ddatganiad ar teyrnged i Sulwyn Thomas. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.27 |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Enseffalomyelitis Myalgig (ME) NDM8884 Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod enseffalomyelitis
myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob
lefel o ddifrifoldeb. 2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael
eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’,
a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser
ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb. 3.Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o
ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn
Lloegr, Prevention of Future
Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu
cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn
amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad; b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn
gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a
difrifol iawn; c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd
proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu
canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr
effeithir arnynt yn fwyaf difrifol; d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar
gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid
hir - yn flaenoriaeth; e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr
proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac
ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant
sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol
gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid
hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol
a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Cefnogwyr Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Heledd
Fychan (Canol De
Cymru) Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Luke
Fletcher (Gorllewin De
Cymru) Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Mark
Isherwood (Gogledd Cymru) Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe) Sioned
Williams (Gorllewin De
Cymru) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: datblygu dull strategol
o ymchwil drwy gefnogi Cymru i gynnal un o'r pum canolfan arfaethedig yn y DU ar gyfer ymchwil drosiadol gydweithredol i fecanweithiau patholegol sy'n achosi ME, COVID hir a chyflyrau heintiau ôl-acíwt cysylltiedig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.28 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8884 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi
bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu
ar bob lefel o ddifrifoldeb. 2. Yn nodi bod 25%,
o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn
bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth
i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol,
gofal lliniarol a bwydo drwy diwb. 3.Yn gresynu mai’r
rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal
a thriniaeth briodol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ymateb i'r pryderon
a godir yn Adroddiad y Crwner yn
Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau
ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn
cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad; b) sicrhau bod
gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i
anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; c) dwyn ynghyd
grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw,
ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar
ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol; d) gwneud penodi
ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan
gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth; e) gwella'r
hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond
hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi
ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a
difrifol iawn; ac f) sicrhau bod byrddau
iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME
a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y
lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: datblygu dull strategol o ymchwil drwy gefnogi Cymru i gynnal un
o'r pum canolfan arfaethedig yn y DU ar
gyfer ymchwil drosiadol gydweithredol i fecanweithiau patholegol sy'n achosi ME,
COVID hir a chyflyrau heintiau ôl-acíwt cysylltiedig. Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
Derbyniwyd welliant 1 Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM8884 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi
bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu
ar bob lefel o ddifrifoldeb. 2. Yn nodi bod 25%,
o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn
bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth
i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol,
gofal lliniarol a bwydo drwy diwb. 3.Yn gresynu mai’r
rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal
a thriniaeth briodol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) ymateb i'r pryderon
a godir yn Adroddiad y Crwner yn
Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau
ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn
cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad; b) sicrhau bod
gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i
anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; c) dwyn ynghyd
grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw,
ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar
ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol; d) gwneud penodi
ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan
gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth; e) gwella'r
hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond
hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi
ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a
difrifol iawn; ac f) sicrhau bod byrddau
iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME
a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y
lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru NDM9076 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru’
a gasglodd 10,536 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.26 NDM9076 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru’ a gasglodd 10,536 o
lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Busnesau bach NDM9078 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr 2025. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach
yn ei chwarae wrth greu swyddi, cefnogi cymunedau a rhoi hwb i economïau lleol
ledled Cymru. 3. Yn credu y bydd cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU
yn arwain at gostau ychwanegol i fusnesau a cholli swyddi. 4. Yn gresynu bod busnesau o dan Lywodraeth Lafur Cymru,
yn cael eu taro gan y cyfraddau busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain,
diweithdra yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyflog isaf. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach; b) gwrthdroi newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiant
mewn perthynas â rhyddhad eiddo busnes; c) darparu rhagor o barcio am ddim yng nghanol trefi; d) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym; ac e) galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd mewn
yswiriant gwladol cyflogwr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y
rhain hyd yma. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi
busnesau bach yng Nghymru trwy: a) Busnes Cymru, sydd wedi cefnogi dros 33,200 o fusnesau
ac entrepreneuriaid ers dechrau tymor y Senedd hon; b) Micro-fenthyciadau a phecynnau cyllid twf gan Fanc
Datblygu Cymru, sydd wedi cefnogi dros 950 o fusnesau gyda £21.7 milliwn o
fenthyciadau yn nhymor y Senedd hon; ac c) £140 miliwn ar ffurf rhyddhad ardrethi i fusnesau bach
i dros 70,000 eiddo yn 2025-26. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) ymestyn y lluosydd cyfradd îs ar gyfer safle manwerthu
bach a chanolig i gynnwys busnesau lletygarwch a hamdden, gan nodi bod
amcangyfrif y byddai peidio gwneud hynny yn gadael y dafarn stryd fawr
gyffredin gyda £6,800 yn ychwanegol o drethi busnes y flwyddyn; b) sicrhau na fydd unrhyw gymorth i fusnesau a ddaw o
uwchgynhadledd fuddsoddi ddiweddar Llywodraeth Cymru yn digwydd ar draul
ymdrechion i feithrin sylfaen gystadleuol a gwydn busnesau domestig; c) darparu pecyn cymorth busnes cryfach ac wedi’i
gydgysylltu'n fwy effeithiol, gan gynnwys cynorthwyo cynlluniau olyniaeth i
fusnesau bach a chanolig Cymru; a d) hyrwyddo ehangiad mentrau cydweithredol a
chyd-fuddiannol o fewn economi Cymru drwy roi’r modelau hyn ar sail deg gyda
ffurfiau mwy traddodiadol o fenter a busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.12 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM9078 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ar 6 Rhagfyr
2025. 2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau
bach yn ei chwarae wrth greu swyddi, cefnogi cymunedau a rhoi hwb i economïau
lleol ledled Cymru. 3. Yn credu y bydd cyllideb hydref Llywodraeth Lafur
y DU yn arwain at gostau ychwanegol i fusnesau a cholli swyddi. 4. Yn gresynu bod busnesau o dan Lywodraeth Lafur
Cymru, yn cael eu taro gan y cyfraddau busnes lleiaf cystadleuol ym Mhrydain,
diweithdra yw'r uchaf yn y Deyrnas Unedig a'r cyflog isaf. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes bach; b) gwrthdroi newidiadau arfaethedig i'r dreth
etifeddiant mewn perthynas â rhyddhad eiddo busnes; c) darparu rhagor o barcio am ddim yng nghanol
trefi; d) dileu'r dreth dwristiaeth cyn iddi ddod i rym; ac e) galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd mewn
yswiriant gwladol cyflogwr ac ad-dalu Cymru am fethu ag ariannu costau llawn y
rhain hyd yma.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach yng Nghymru
trwy: a)
Busnes Cymru, sydd wedi cefnogi dros 33,200 o fusnesau ac entrepreneuriaid ers
dechrau tymor y Senedd hon; b)
Micro-fenthyciadau a phecynnau cyllid twf gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi
cefnogi dros 950 o fusnesau gyda £21.7 milliwn o fenthyciadau yn nhymor y
Senedd hon; ac c)
£140 miliwn ar ffurf rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i dros 70,000 eiddo yn
2025-26. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Dileu
pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
ymestyn y lluosydd cyfradd îs ar gyfer safle manwerthu bach a chanolig i
gynnwys busnesau lletygarwch a hamdden, gan nodi bod amcangyfrif y byddai
peidio gwneud hynny yn gadael y dafarn stryd fawr gyffredin gyda £6,800 yn
ychwanegol o drethi busnes y flwyddyn; b)
sicrhau na fydd unrhyw gymorth i fusnesau a ddaw o uwchgynhadledd fuddsoddi
ddiweddar Llywodraeth Cymru yn digwydd ar draul ymdrechion i feithrin sylfaen
gystadleuol a gwydn busnesau domestig; c)
darparu pecyn cymorth busnes cryfach ac wedi’i gydgysylltu'n fwy effeithiol,
gan gynnwys cynorthwyo cynlluniau olyniaeth i fusnesau bach a chanolig Cymru; a d)
hyrwyddo ehangiad mentrau cydweithredol a chyd-fuddiannol o fewn economi Cymru
drwy roi’r modelau hyn ar sail deg gyda ffurfiau mwy traddodiadol o fenter a
busnes. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y
gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.52 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM9071 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Meddiannu corfforaethol o
ran practisau milfeddygol er mwyn gwneud elw,
ar draul anifeiliaid anwes a'u perchnogion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.00 NDM9071 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Meddiannu corfforaethol o
ran practisau milfeddygol er mwyn gwneud elw,
ar draul anifeiliaid anwes a'u perchnogion. |
PDF 236 KB