Pobl y Senedd

Sioned Williams AS

Sioned Williams AS

Aelod Rhanbarthol o’r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Gorllewin De Cymru

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Faint o bobl ag anabledd dysgu neu awtistiaeth sydd wedi'u rhoi mewn unedau asesu seiciatrig neu unedau asesu a thriniaeth, a faint o fyrddau iechyd lleol sydd wedi ariannu cynlluniau i'w...

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa ariannol gwasanaethau cymdeithasol plant yng Ngwent?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa ariannol gwasanaethau cymdeithasol plant yng Nghasnewydd?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod trigolion Gorllewin De Cymru yn derbyn gofal iechyd prydlon?

Wedi'i gyflwyno ar 11/04/2024

Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cynlluniau adfer glofeydd brig yn diogelu cymunedau yng Ngorllewin De Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 10/04/2024

A wnaiff y Gweinidog ddarparu data ar nifer y ffoaduriaid o Wcrain sy'n ddigartref yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 19/03/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Sioned Williams AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Magwyd Sioned Williams yng nghymoedd Gwent ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae hi'n byw yn yr Alltwen, yng Nghwm Tawe gyda'i gŵr Daniel a'u dau blentyn sydd yn eu harddegau. Mae Sioned yn rhugl yn y Gymraeg. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg o Brifysgol Aberystwyth, dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth T.Glynne Davies S4C i astudio ar gyfer diploma ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Roedd Sioned yn newyddiadurwr gyda BBC Cymru cyn mynd i weithio i Brifysgol Abertawe fel Swyddog Polisi Iaith ac yna fel Rheolwr Cyfathrebu a Datblygu yn Academi Hywel Teifi. Fel rhan o’i gwaith yn y Brifysgol, bu’n helpu i sefydlu a chyd-reoli Tŷ’r Gwrhyd, canolfan iaith Gymraeg Cwm Tawe a Nedd. Mae hi hefyd wedi gweithio i Blaid Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu Strategol. Mae Sioned yn adolygydd a sylwebydd adnabyddus ar ddarlledu a'r celfyddydau ac mae wedi beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae hi'n gyn-aelod o Fwrdd a chyn-Gadeirydd Panel Bwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru.

Hanes gwleidyddol

Roedd Sioned yn Gynghorydd Cymuned dros yr Alltwen ac yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Cilybebyll cyn cael ei hethol yn Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru yn Etholiad 2021.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Sioned Williams AS