Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 318 (v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/12/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5 ac 8 i 10. Tynnwyd cwestiynau 6 a 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.24

Gofynnwyd y 3 chwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

3.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.49

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Fframwaith Perfformiad Brys Newydd ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans a Throsglwyddo Cleifion o Ambiwlansys mewn Ysbytai

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.59

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Adroddiad Cynnydd ar Dlodi Plant 2025

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

 

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Tybaco a Fêps

NDM9075 Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tybaco a Fêps i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://bills.parliament.uk/bills/3879

 

Dogfennau ategol:

Adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2.

Adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar femoranda rhif 1 a rhif 2.

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad rhif 1 y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.19

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9075 Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Tybaco a Fêps i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Ebrill 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

https://bills.parliament.uk/bills/3879

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

2

9

47

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 8-9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 8 a 9 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

8.

Egwyddorion Cyffredinol y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

NDM9073 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).

Gosodwyd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 7 Gorffennaf 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

NDM9073 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru).

Gosodwyd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 7 Gorffennaf 2025; gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) gerbron y Senedd ar 28 Tachwedd 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru)

NDM9074 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

 

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.49

NDM9074 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

10.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

NDM9080 Ken Skates (De Clwyd)

 

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.43

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9080 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

2

10

46

Derbyniwyd y cynnig.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.55

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: