Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 233(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/10/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Heledd
Fychan (Canol De Cymru): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa
gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion
adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i ladd June Fox-Roberts? I ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i
sicrhau bod Dŵr Cymru, ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn
gwneud gwelliannau hirdymor o ran lleihau llygredd a gollyngiadau? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.26 Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Heledd Fychan
(Canol De Cymru):
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd gan
Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi argymhellion adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf
Morgannwg i ladd June Fox-Roberts? Atebwyd
gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru):
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod Dŵr Cymru,
ynghyd â thalu’r gosb ariannol o £24.1 miliwn, yn gwneud gwelliannau hirdymor o
ran lleihau llygredd a gollyngiadau? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.49 Gwnaeth
John Griffiths ddatganiad am - CPD Undy yn ennill Gwobr Ysbryd Pêl-droed
Llawr Gwlad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (20 Medi). Gwnaeth
Joel James ddatganiad am - 125 mlynedd o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i bobl ifanc NDM8683 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch
i bobl ifanc’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM8683 Carolyn Thomas
(Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Rhyddid i ffynnu: Trafnidiaeth gyhoeddus
am ddim a hygyrch i bobl ifanc’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Seinio’r Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub NDM8685 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Seinio’r Larwm:
Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub” a osodwyd ar 6 Mehefin 2024. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 NDM8685 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Seinio’r
Larwm: Llywodraethiant Gwasanaethau Tân ac Achub”
a osodwyd ar 6 Mehefin
2024. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1474 - Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas NDM8682 Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr
Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ a gasglodd 13,247 o
lofnodion. Dogfennau
ategol Gohebiaeth
gan Cyfoeth Naturiol Cymru i’r Pwyllgor Deisebau (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.03 NDM8682 Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘Atal
Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed
y Brenin ac Ynyslas’
a gasglodd 13,247 o lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ariannu addysg NDM8686 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r adroddiad
‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr
NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu
argyfwng cyllido dirdynnol. 2. Yn gresynu o
ganlyniad i gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru: a) fe welodd Cymru ei
chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022; b) ei bod wedi methu ei
tharged ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf; c) fod canllawiau ar
ddysgu sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith
negyddol ar sgiliau llythrennedd; a d) cyrhaeddodd nifer y
swyddi gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o
20,630 yn 2022. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) anrhydeddu ar unwaith
yr ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad
Cyffredinol 2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg; b) gwrthdroi'r toriad o
6 y cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan
yr NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau
cyrhaeddiad; ac c) diffinio faint mwy o
athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y
byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n
dwysáu Cyflwynwyd y gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r adroddiad
‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr
NAHT, ac yn cydnabod y pwysau ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol. 2. Yn diolch i athrawon
a staff ysgol ymroddedig Cymru am eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb
Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n
cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant i athrawon. 3. Yn cydnabod, er
gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus
Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi: a) cyflwyno’r Cwricwlwm
newydd i Gymru a system newydd o gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r dysgwr wrth wraidd y system addysg; b) gweithredu dull ysgol
gyfan i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac c) diogelu’r cyllid ar
gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i
gyllidebau awdurdodau lleol a chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion
gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm
isel. 4. Yn cefnogi hybu
safonau mewn ysgolion a cholegau fel blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan
gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar
gyfer llythrennedd a rhifedd. 5. Yn cefnogi targedu
recriwtio athrawon mewn meysydd pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac
ieithoedd tramor modern, ac addysg cyfrwng Cymraeg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8686 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r adroddiad
‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu' gan yr
NAHT sy'n nodi bod y dirwedd addysgol yng Nghymru ar hyn o bryd yn wynebu
argyfwng cyllido dirdynnol. 2. Yn gresynu o ganlyniad i
gamreolaeth a thanariannu Llywodraeth Cymru: a) fe welodd Cymru ei
chanlyniadau PISA gwaethaf erioed yn 2022; b) ei bod wedi methu ei tharged
ar gyfer recriwtio athrawon ysgol uwchradd am yr wyth mlynedd diwethaf; c) fod canllawiau ar ddysgu
sgiliau darllen sydd wedi dyddio a’u tanseilio wedi cael effaith negyddol ar
sgiliau llythrennedd; a d) cyrhaeddodd nifer y swyddi
gwag o ganlyniad i diffyg sgiliau yng Nghymru cyrraedd uchafbwynt o 20,630 yn
2022. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) anrhydeddu ar unwaith yr
ymrwymiad a wnaed gan Lafur yng Nghymru yn eu maniffesto Etholiad Cyffredinol
2024 ar gyfer cyllid ychwanegol ar gyfer addysg; b) gwrthdroi'r toriad o 6 y
cant mewn gwariant fesul disgybl o fewn y gyllideb addysg, fel y nodwyd gan yr
NAHT, fel cam cyntaf i gefnogi athrawon a disgyblion a chodi lefelau
cyrhaeddiad; ac c) diffinio faint mwy o
athrawon fydd yn cael eu hariannu gan addewid Llafur yng Nghymru, a phryd y
byddant yn dechrau addysgu mewn ystafelloedd dosbarth. Syrthio’n
brin: Yr argyfwng cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng
cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau
ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol. 2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am
eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad
Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant
i athrawon. 3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o
lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi: a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o
gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r
dysgwr wrth wraidd y system addysg; b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl
ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a
chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu
Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel. 4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel
blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn
genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd. 5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd
pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg
cyfrwng Cymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r adroddiad ‘Syrthio’n brin: Yr argyfwng
cyllido ysgolion yng Nghymru sy’n dwysáu’ gan yr NAHT, ac yn cydnabod y pwysau
ar gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol. 2. Yn diolch i athrawon a staff ysgol ymroddedig Cymru am
eu gwaith caled, ac yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i bumed adroddiad
Corff Adolygu Annibynnol Cyflog Cymru, sy'n cynnwys codiad cyflog o 5.5 y cant
i athrawon. 3. Yn cydnabod, er gwaethaf effaith enbyd 14 mlynedd o
lywodraeth Geidwadol ar gyllid cyhoeddus Cymru, bod Llywodraeth Cymru wedi: a) cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a system newydd o
gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae’r ddau ohonynt yn rhoi'r
dysgwr wrth wraidd y system addysg; b) gweithredu dull ysgol gyfan i gefnogi plant a phobl
ifanc gyda'u hiechyd meddwl a'u lles; ac c) diogelu’r cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
craidd yn 2024-25 drwy godiad o 3.3 y cant i gyllidebau awdurdodau lleol a
chynnal y cyllid grant uniongyrchol i ysgolion gan gynnwys y Grant Datblygu
Disgyblion sy'n cefnogi dysgwyr o aelwydydd incwm isel. 4. Yn cefnogi hybu safonau mewn ysgolion a cholegau fel
blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ffocws ar wella cysondeb yn
genedlaethol a darparu mwy o gymorth ar gyfer llythrennedd a rhifedd. 5. Yn cefnogi targedu recriwtio athrawon mewn meysydd
pwnc prin fel mathemateg, gwyddorau ac ieithoedd tramor modern, ac addysg
cyfrwng Cymraeg.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.35 |
||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8684 Sian
Gwenllian (Arfon) Llenwi’r
bwlch: yr achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.37 NDM8684 Sian Gwenllian
(Arfon) Llenwi’r bwlch: yr
achos dros hyfforddi deintyddion ym Mangor |
PDF 155 KB