Agenda
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 220(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Y cynnydd o ran diwygio’r cwricwlwm a'r camau nesaf |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Gweithio mewn partneriaeth ar gyfer y cynllun gorfodol newydd i ddileu Dolur Rhydd Feirysol Buchol |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024 NDM8627 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024 yn
cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2024. Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024-
Memorandwm Esboniadol |
|
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) NDM8625
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r
Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a) Adrannau 2-15; b) Atodlen 1; c) Adran 1; d) Adrannau 17-21; e) Adran 16; f) Adrannau 22-25; g) Teitl hir. |
|
Cyfnod pleidleisio |
||
(180 munud) |
Cyfnod 3 y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) Caiff y gwelliannau eu
gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn
ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a dderbyniwyd gan y Senedd ar
25 Mehefin 2024. Mae’r gwelliannau wedi
cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn: 1. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru -
swyddogaethau 26, 27, 36 2. Cofrestru etholiadol 7, 28, 8, 29 3. Pwerau a rheoliadau peilot etholiadau Cymreig 9, 10, 11, 12 4. Rheoliadau diwygio
etholiadol 13, 14 5. Cymorth i
bleidleiswyr ag anableddau 15, 30 6. Amrywiaeth ymhlith
personau sy’n ceisio swydd etholedig 16 7. Platfform gwybodaeth
am etholiadau Cymreig 17, 18, 31, 1, 32, 33, 34 8. Cynllun cymorth
ariannol - gweithredu 35, 19 9. Gofynion o ran y
Gymraeg ar gyfer swyddogion canlyniadau 37, 38, 51 10. Adolygiadau o
drefniadau etholiadol 2, 3, 4, 5 11. Cyhoeddi manylion
cyswllt cynghorau cymuned 39 12. Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru –
swyddogaethau sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol Aelodau etholedig 40, 41 13. Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd 42 14. Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru
neu lywodraeth leol 20, 21, 22, 23, 24 15. Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o Senedd Cymru
– y drosedd o ddichell 43, 6, 44, 45, 46, 47,
48, 49, 50, 52, 53, 25 Dogfennau ategol: Bil
Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 Memorandwm
Esboniadol, diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 |