Agenda

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 206(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio gyda llywodraeth leol i ddarparu mwy o dai fforddiadwy

(5 munud)

6.

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024

NDM8565 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ebrill 2024.

(15 munud)

7.

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

NDM8564 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ebrill 2024.

(5 munud)

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

NNDM8574 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8572 a NNDM8573 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 7 Mai 2024.

(30 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

8.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1

NNDM8572 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno bod darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymal 16 ynghylch Cyfyngu ar gyfrifoldeb rhiant pan fo un rhiant yn lladd y llall; ystyried Cymal 17 ynghylch marwolaeth  yn deillio o gam-drin domestig a Rhan 3 a'r Atodlen gysylltiedig sy'n ymwneud ag iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed heintiedig, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 a 29 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

9.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2

NNDM8573 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, sef, Cymalau 1 i 4, 11, 26 a 27, Dioddefwyr Ymddygiad Troseddol: Cod dioddefwyr; Cymal 15, Canllawiau ar rolau cymorth dioddefwyr penodedig; Cymalau 28 - 33 a Chymalau 35 - 39 Dioddefwyr Digwyddiadau Mawr; i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gael eu hystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2024 a 29 Ebrill 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil Dioddefwyr a Charcharorion (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

10.

Cyfnod pleidleisio