Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 197
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 a 8 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2023-2024 NDM8493 Rebecca Evans
(Gŵyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20
Chwefror 2024. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad
rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng
y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng
yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau ategol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8493 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb
Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Chwefror 2024. Troednodyn: Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru
yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru
gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a (vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Sioned
Williams (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y
penderfyniad i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gogledd
Cymru gynnal adolygiadau annibynnol i'w diwylliant a'u gwerthoedd? I ofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud
o'r ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng
nghanolbarth a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i
wneud i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol Sioned Williams
(Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am y penderfyniad i wasanaethau tân ac achub Canolbarth a Gorllewin
Cymru a Gogledd Cymru gynnal adolygiadau annibynnol i'w diwylliant a'u
gwerthoedd? Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r
ddarpariaeth gwasanaethau casglu a throsglwyddo meddygol brys yng nghanolbarth
a gogledd Cymru, yn dilyn adroddiadau bod argymhelliad wedi'i wneud i gau
canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.55 Gwnaeth
Huw Irranca-Davies ddatganiad am - Diwrnod Ymwybyddiaeth Llyncu (13
Mawrth). Gwnaeth
Mike Hedges ddatganiad am - Diwrnod Arennau’r Byd (14 Mawrth). Gwnaeth
David Rees ddatganiad am - Teyrnged i Tassia Haines, ymgyrchydd dros
wella gwasanaethau canser y fron metastatig, a arweiniodd ddeiseb i’r Senedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Adfywio Canol Trefi NDM8516 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar
ei ymchwiliad, Adfywio Canol Trefi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25
Ionawr 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 NDM8516 Mark Isherwood
(Gogledd Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar
ei ymchwiliad, Adfywio Canol Trefi, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyllideb llywodraeth y DU NDM8518 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu Cyllideb
2024 Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf tymor hir, a fydd yn cynnwys: a) toriad dwy geiniog i
gyfraniadau yswiriant gwladol, gan arbed £450 y flwyddyn ar gyfartaledd i
weithwyr Cymru; b) £168 miliwn o gyllid
canlyniadol Barnett ychwanegol i Gymru; c) prynu safle'r Wylfa
am £160 miliwn; d) £20 miliwn o gyllid
ar gyfer y Rhyl fel rhan o'r Cynllun Tymor Hir ar gyfer Trefi; e) £10 miliwn o gyllid i
Venue Cymru yn Llandudno; f) £5 miliwn o gyllid ar
gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd; g) £5 miliwn o gyllid i
lansio safle lansio bwyd-amaeth mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a
Chyngor Ceredigion; h) £1.6 miliwn o gyllid
tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod: a) y Canghellor wedi
cyhoeddi Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU; b) twf cyflog real a
Chynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen wedi cynyddu ar ei gyfradd isaf ers yr Ail
Ryfel Byd o dan Lywodraeth hon y DU; ac c) treth fel cyfran o
CDG wedi cynyddu i'w lefel uchaf ers 1948 o dan Lywodraeth hon y
DU. 2. Yn gresynu: a) mai'r tymor Senedd
San Steffan hwn fydd y cyntaf yn hanes modern i oruchwylio cwymp mewn incwm
gwario aelwydydd a safonau byw; b) at y methiant i
wella’r trothwy lwfans personol yn unol â chwyddiant, a fydd yn gadael
aelwydydd incwm isel yn waeth eu byd ac yn ymwreiddio anghydraddoldebau incwm; c) y bydd gwariant o
ddydd i ddydd ar gyfer adrannau anwarchodedig Llywodraeth y DU yn gostwng 13 y
cant dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru
mewn meysydd fel cyfiawnder; d) y bydd Canary Wharf
yn derbyn £240 miliwn mewn Cronfeydd Ffyniant Bro, tra bod Llywodraeth Cymru am
dderbyn dim ond £170 miliwn; ac e) nad yw Plaid
Geidwadol y DU na Phlaid Lafur y DU wedi ymrwymo i fargen ariannu deg i Gymru,
nac i roi ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru. 3. Yn credu bod: a) potensial Cymru yn
cael ei rwystro gan ddiffyg buddsoddiad priodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus
a'n seilwaith adfeiliedig; a b) gyllideb Llywodraeth
y DU 2024 yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â blaenoriaethau ac anghenion pobl
Cymru. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu o ran
Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024: a) nid yw’n darparu
unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am yr hyn sydd
eisoes yn ei chynlluniau gwario; b) mae’n golygu bod
setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn yn is mewn termau
real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021; c) nid yw’n darparu
unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, sy’n golygu bod ei
chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn
termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant 2021; d) mae’n anwybyddu
gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i ddiogelu
tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270 miliwn na
fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol; ac e) nid yw’n darparu
cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf. 2. Yn gresynu hefyd: a) bod y cynnydd mewn
treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn ei phenderfyniad
blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a gyhoeddwyd yng
Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i gilydd, a dwywaith
yn uwch erbyn 2028-29; b) nad yw cyfansymiau
gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf gwirioneddol mewn gwariant
cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb unrhyw gynllun credadwy i
gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i hamlinellu; c) bod disgwyl i safonau
byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o dwf wedi’i golli, gan
ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y cynharaf, fel y’i
mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a d)
bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais
dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd yma. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.01 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8518 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
croesawu Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU, cynllun ar gyfer twf tymor hir, a fydd
yn cynnwys: a)
toriad dwy geiniog i gyfraniadau yswiriant gwladol, gan arbed £450 y flwyddyn
ar gyfartaledd i weithwyr Cymru; b)
£168 miliwn o gyllid canlyniadol Barnett ychwanegol i Gymru; c)
prynu safle'r Wylfa am £160 miliwn; d)
£20 miliwn o gyllid ar gyfer y Rhyl fel rhan o'r Cynllun Tymor Hir ar gyfer
Trefi; e)
£10 miliwn o gyllid i Venue Cymru yn Llandudno; f) £5
miliwn o gyllid ar gyfer cyfleusterau diwylliannol yng Nghasnewydd; g) £5
miliwn o gyllid i lansio safle lansio bwyd-amaeth mewn partneriaeth rhwng
Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion; h)
£1.6 miliwn o gyllid tuag at ailddatblygu Theatr Clwyd yn yr Wyddgrug.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Dileu’r
cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
nodi bod: a) y
Canghellor wedi cyhoeddi Cyllideb 2024 Llywodraeth y DU; b)
twf cyflog real a Chynnyrch Domestig Gros (CDG) y pen wedi cynyddu ar ei
gyfradd isaf ers yr Ail Ryfel Byd o dan Lywodraeth hon y DU; ac c)
treth fel cyfran o CDG wedi cynyddu i'w lefel uchaf ers 1948 o dan Lywodraeth
hon y DU. 2. Yn
gresynu: a)
mai'r tymor Senedd San Steffan hwn fydd y cyntaf yn hanes modern i oruchwylio
cwymp mewn incwm gwario aelwydydd a safonau byw; b) at
y methiant i wella’r trothwy lwfans personol yn unol â chwyddiant, a fydd yn
gadael aelwydydd incwm isel yn waeth eu byd ac yn ymwreiddio anghydraddoldebau
incwm; c) y
bydd gwariant o ddydd i ddydd ar gyfer adrannau anwarchodedig Llywodraeth y DU
yn gostwng 13 y cant dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael effaith
uniongyrchol ar Gymru mewn meysydd fel cyfiawnder; d) y
bydd Canary Wharf yn derbyn £240 miliwn mewn Cronfeydd Ffyniant Bro, tra bod
Llywodraeth Cymru am dderbyn dim ond £170 miliwn; ac e)
nad yw Plaid Geidwadol y DU na Phlaid Lafur y DU wedi ymrwymo i fargen ariannu
deg i Gymru, nac i roi ei chyfran o gyllid canlyniadol HS2 i Gymru. 3. Yn
credu bod: a)
potensial Cymru yn cael ei rwystro gan ddiffyg buddsoddiad priodol yn ein
gwasanaethau cyhoeddus a'n seilwaith adfeiliedig; a b)
gyllideb Llywodraeth y DU 2024 yn methu'n llwyr â mynd i'r afael â
blaenoriaethau ac anghenion pobl Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024: a)
nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am
yr hyn sydd eisoes yn ei chynlluniau gwario; b)
mae’n golygu bod setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn
yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant
2021; c)
nid yw’n darparu unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru,
sy’n golygu bod ei chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad
Gwariant 2021; d)
mae’n anwybyddu gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i
ddiogelu tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270
miliwn na fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol;
ac e)
nid yw’n darparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm
isaf. 2. Yn
gresynu hefyd: a)
bod y cynnydd mewn treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn
ei phenderfyniad blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a
gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i
gilydd, a dwywaith yn uwch erbyn 2028-29; b)
nad yw cyfansymiau gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf
gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb
unrhyw gynllun credadwy i gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i
hamlinellu; c)
bod disgwyl i safonau byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o
dwf wedi’i golli, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y
cynharaf, fel y’i mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a d) bod
polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais dros
arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd
yma. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig
bod y Senedd: 1. Yn
gresynu o ran Cyllideb y Gwanwyn Llywodraeth y DU 2024: a)
nid yw’n darparu unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, heblaw am
yr hyn sydd eisoes yn ei chynlluniau gwario; b)
mae’n golygu bod setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 hyd at £700 miliwn
yn is mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad Gwariant
2021; c)
nid yw’n darparu unrhyw gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru,
sy’n golygu bod ei chyllideb gyfalaf gyffredinol yn 2024-25 hyd at 8 y cant yn llai mewn termau real na’r hyn a ddisgwylid adeg Adolygiad
Gwariant 2021; d)
mae’n anwybyddu gofynion craidd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU fuddsoddi i
ddiogelu tomenni glo ac i ailgategoreiddio HS2, gan gynnwys darparu’r £270
miliwn na fydd Cymru wedi’i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod gwario presennol;
ac e) nid
yw’n darparu cymorth wedi’i dargedu i’r bobl hynny sydd ar yr incwm isaf. 2. Yn
gresynu hefyd: a)
bod y cynnydd mewn treth bersonol a gyflwynwyd gan Lywodraeth hon y DU yn dilyn
ei phenderfyniad blaenorol i rewi trothwyon yn uwch na’r gostyngiadau i dreth a
gyhoeddwyd yng Nghyllideb y Gwanwyn 2024 a Datganiad yr Hydref 2023 gyda’i
gilydd, a dwywaith yn uwch erbyn 2028-29; b)
nad yw cyfansymiau gwario cyffredinol Llywodraeth y DU yn golygu twf
gwirioneddol mewn gwariant cyhoeddus y person dros y pum mlynedd nesaf, heb
unrhyw gynllun credadwy i gyflawni lefel y gwariant cyhoeddus y maent wedi’i
hamlinellu; c)
bod disgwyl i safonau byw yn y DU adlewyrchu’r ffaith bod gwerth chwe blynedd o
dwf wedi’i golli, gan ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig erbyn 2025 ar y
cynharaf, fel y’i mesurwyd gan incwm gwario gros aelwyd y pen; a d)
bod polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU yn golygu bod gan Gymru lai o lais
dros arian a’u bod hefyd yn tanseilio ac yn anwybyddu datganoli a’r Senedd
yma.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Nawfed adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM8519 Vikki Howells
(Cwm Cynon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Nawfed adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 6 Mawrth 2024 yn
unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri. 3. Yn penderfynu y caiff
yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am
gyfnod o 42 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan
ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim
hwyrach na hanner nos ar 15 Mai 2024. 4.
Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y
dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM8519 Vikki Howells (Cwm
Cynon) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad— Nawfed adroddiad i'r
Chweched Senedd a osodwyd gerbron
y Senedd ar 6 Mawrth 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri. 3.
Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol
Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 42 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad
y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i
ben dim hwyrach na hanner nos ar 15 Mai 2024. 4.
Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y
dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8515 Hefin David
(Caerffili) Y
defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: yr heriau i athrawon a
dysgwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 NDM8515 Hefin David (Caerffili) Y
defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: yr heriau i athrawon a
dysgwyr |