Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 192
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/02/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 14.30, cyfeiriodd y Llywydd at sylwadau a wnaed yn
ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog am negeseuon Aelod ar gyfryngau cymdeithasol.
Gofynnodd i'r Aelodau ddewis eu hiaith yn ofalus a bod yn ofalus wrth
ysgrifennu neu ddehongli swyddi o'r fath. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.30 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU - Tynnwyd yn ôl NDM8492 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod hyblygrwydd cyllidol Llywodraeth Cymru
yn annigonol ac yn cyfyngu ar ei gallu i fynd i’r afael â’r pwysau a’r
ansicrwydd digynsail sy’n wynebu Cymru, gan gynnwys ymateb yn gyflym ac yn
effeithiol i anghenion a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg. 2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar
benderfyniadau ac amseru Llywodraeth y DU, a bod angen gallu rhagfynegi’n well
drefniadau ariannu Llywodraeth Cymru, ac angen mwy o sicrwydd amdanynt, i
gefnogi ei phroses cynllunio’r gyllideb a phroses cynllunio’r gyllideb ei
sefydliadau partner, gan gynnwys yr awdurdodau lleol. 3. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a’i
therfynau benthyca yr un fath ag yr oeddent pan gawsant eu gosod yn 2016 ac, yn
2024-25, bydd eu gwerth 23% yn llai mewn termau real na phan gawsant eu
cyflwyno yn 2018-19. 4. Yn nodi’r diffyg tegwch a chysondeb sy’n gysylltiedig
â phenderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â’r hyblygrwydd cyllid ar gyfer
y llywodraethau datganoledig, a bod trefniadau Llywodraeth Cymru yn sylweddol
llai hael na rhai’r Alban a’i threfniadau benthyca cyfalaf yn llawer llai na
hael na rhai Gogledd Iwerddon. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o
hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er mwyn rheoli’r gyllideb yn
effeithiol, gan ei galluogi i fuddsoddi mwy a chyflawni canlyniadau gwell i
bobl Cymru, gan gynnwys mynd ati ar unwaith i: a) fynegeio terfynau benthyca a chronfa wrth gefn
gyffredinol Llywodraeth Cymru yn ôl chwyddiant; a b) diddymu’r cyfyngiadau ar Lywodraeth Cymru i dynnu
symiau wrth gefn i lawr. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru
yn gyfyngedig. 2. Yn nodi nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i
Lywodraeth Cymru yn ddigonol. 3. Yn cydnabod yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd
o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb
a gwaith cynllunio sefydliadau partner. 4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i
therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o
hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol,
gan gynnwys, ar unwaith: a) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn yn gyffredinol
a benthyca yn destun adolygiad blynyddol; a b) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ailrifo yn unol â
hynny: Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol
San Steffan wedi arwain at biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r
anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y
Goron. Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: adolygu Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar
draws setliad cyllidol ac ariannol cyfredol Cymru; Gwelliant 4 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: cynyddu terfynau benthyca cyfalaf; Gwelliant 5 Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y
cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol
Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa
Gyllideb Seneddol. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 14.46 NNDM8498 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a 12.22 (i) dros dro er
mwyn caniatáu i NNDM8497 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 27
Chwefror 2024. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU NNDM8497 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru
yn gyfyngedig. 2. Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael
i Lywodraeth Cymru yn ddigonol. 3. Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o
drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a
gwaith cynllunio sefydliadau partner. 4. Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i
therfynau benthyca yr un fath â phan gawsant eu gosod yn 2016. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o
hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol,
gan gynnwys, ar unwaith: a) mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau
benthyca a’r gronfa wrth gefn ers 2016; b) gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a
benthyca yn destun adolygiad blynyddol; ac c) diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol
San Steffan wedi arwain at biliynau o arian sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r
anallu i fuddsoddi mewn cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y
Goron. Gwelliant 2 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: disodli Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar
draws setliad cyllidol a chyllid cyfredol Cymru gyda system newydd sy’n symud
oddi wrth ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ad-hoc a thuag at fframwaith sy’n
darparu cyllid cyson, tryloyw a theg i Gymru; Gwelliant 3 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: cynyddu terfynau benthyca cyfalaf; Gwelliant 4 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y
cyd ffyrdd newydd o ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol
Llywodraeth Cymru, a'u heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa
Gyllideb Seneddol. Gwelliant 5 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau
i osod bandiau treth incwm penodol i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.46 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8497 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig. 2.
Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn
ddigonol. 3.
Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido
Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio
sefydliadau partner. 4.
Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un
fath â phan gawsant eu gosod yn 2016. 5.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth
Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith: a)
mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn
ers 2016; b)
gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad
blynyddol; ac c)
diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
gresynu bod diffyg cyllid teg a hyblygrwydd cyllidol San Steffan wedi arwain at
biliynau o bunnoedd sy'n ddyledus o ariannu HS2 a'r anallu i fuddsoddi mewn
cynhyrchu ynni lleol gan ddefnyddio cronfeydd Ystâd y Goron. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant
2 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: disodli
Fformiwla Barnett er mwyn unioni'r annhegwch ar draws setliad cyllidol a
chyllid cyfredol Cymru gyda system newydd sy’n symud oddi wrth ariannu ein
gwasanaethau cyhoeddus ad-hoc a thuag at fframwaith sy’n darparu cyllid cyson,
tryloyw a theg i Gymru; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant
3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5: cynyddu
terfynau benthyca cyfalaf; Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru a'r Senedd i archwilio ar y cyd ffyrdd newydd o
ddadansoddi hyblygrwydd a fframweithiau cyllidol Llywodraeth Cymru, a'u
heffeithiau ar Gymru, er enghraifft drwy sefydlu Swyddfa Gyllideb Seneddol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am bwerau i osod bandiau treth
incwm penodol i Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NNDM8497 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn cydnabod bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig. 2.
Yn credu nad yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn
ddigonol. 3.
Yn nodi yr angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido
Llywodraeth Cymru i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio
sefydliadau partner. 4.
Yn cydnabod bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un
fath â phan gawsant eu gosod yn 2016. 5.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth
Cymru, er budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith: a)
mynd i'r afael ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn
ers 2016; b)
gwneud terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad
blynyddol; ac c)
diddymu terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn. Cyd-gyflwynwyr Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Jane Dodds (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) NDM8490 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi
2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y
Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.28 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8490 Rebecca Evans (Gŵyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Gweithgarwch Economaidd Cyrff
Cyhoeddus (Materion Tramor), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Y Bil
Gweithgarwch Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor) Dogfennau
Ategol Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.18, am 15.41 cafodd y trafodion eu
hatal dros dro tan 15.44 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datganiad Polisi ar Brentisiaethau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc - Gohiriwyd Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.25 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd - Gohiriwyd tan 12 Mawrth Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan 12 Mawrth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.47 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2024 NDM8491 Julie
James (Gorllewin Abertawe) Cynnig bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol
Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Tai
Cymdeithasol (Rheoleiddio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol a Amrywiol) 2024 yn
unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024. Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19
Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 NDM8491 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig
bod Senedd Cymru yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr
Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Deddf Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
2023 (Diwygiadau Canlyniadol a Amrywiol) 2024 yn unol â'r fersiwn ddrafft
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024. Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2. Dogfennau
Ategol Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |