Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU
Dadl: Hyblygrwydd cyllidebol a gweithredu Fframwaith Ariannu'r DU
NNDM8497 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y
Senedd:
1. Yn cydnabod
bod ysgogiadau cyllidol Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig.
2. Yn credu nad
yw'r hyblygrwydd cyllidebol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn ddigonol.
3. Yn nodi yr
angen am fwy o ragweladwyedd a sicrwydd o drefniadau cyllido Llywodraeth Cymru
i gefnogi ei gwaith cynllunio cyllideb a gwaith cynllunio sefydliadau partner.
4. Yn cydnabod
bod Cronfa Wrth Gefn Llywodraeth Cymru a'i therfynau benthyca yr un fath â phan
gawsant eu gosod yn 2016.
5. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru, er
budd rheoli cyllideb yn effeithiol, gan gynnwys, ar unwaith:
a) mynd i'r afael
ag effaith chwyddiant ar derfynau benthyca a’r gronfa wrth gefn ers 2016;
b) gwneud
terfynau'r gronfa wrth gefn gyffredinol a benthyca yn destun adolygiad
blynyddol; ac
c) diddymu
terfynau tynnu i lawr y gronfa wrth gefn.
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
NDM8492 Lesley Griffiths (Wrecsam) – Tynnwyd yn ôl
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/08/2024