Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 173(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 22/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-7 a chwestiynau 9-10. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau
2 a 6 gan y Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
cwestiynau 1-3, 5-6 ac 8-11. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiwn
10 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.15 Gwnaeth Jayne Bryant
ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas (Tachwedd). Gwnaeth Vikki Howells
ddatganiad am - Cofio Alf Sherwood, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, a fyddai
wedi bod yn 100 oed eleni (13 Tachwedd). Gwnaeth Alun Davies ddatganiad am - Teyrnged i'r
Arglwydd Beddoe o Gilgeti, arglwydd y meinciau croes a chyn-gadeirydd y WDA, a
fu farw'r wythnos ddiwethaf. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1356: Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477 NDM8408 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1356
Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477’ a
gasglodd 10,310 o lofnodion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.20 NDM8408 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd
'Mynegbost' yr A477’
a gasglodd 10,310 o lofnodion Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG NDM8410 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu
datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU. 2. Yn croesawu'r
Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang
gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd
2023. 3. Yn gresynu: a) nad yw pob meddygfa
yn defnyddio ap GIG Cymru; b) nad yw
e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a c) bod y seilwaith
technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn: a) cyflwyno ap y GIG
ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan; b) cyflymu'r broses o
integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru;
a c)
dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi
dyddio. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd
sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar
Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau
bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu
yn y dyfodol. Yn nodi pwysigrwydd
datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel. Yn croesawu: a) bod dros 200 o
bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru; b) mai’r pwriad yw ei
gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024; c) bod gwasanaeth
presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei
lansio; a d)
gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a
rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu
mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8410 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau
iechyd ledled y DU. 2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr
uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a
gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023. 3. Yn gresynu: a) nad yw pob meddygfa yn defnyddio ap GIG Cymru; b) nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a c) bod y seilwaith technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i
ymarfer clinigol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn: a) cyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan; b) cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd
artiffisial ar gyfer GIG Cymru; a c) dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd
wedi dyddio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n
digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar
ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru
yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol. Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus
gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn
sicrhau gofal o ansawdd uchel. Yn croesawu: a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu
bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru; b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis
erbyn diwedd mis Mawrth 2024; c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn
dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau
Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau
newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu
mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8410 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau
iechyd ledled y DU. 2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr
uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a
gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023. 3. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n
digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar
ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru
yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol. 4. Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus
gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn
sicrhau gofal o ansawdd uchel. 5. Yn croesawu: a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu
bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru; b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis
erbyn diwedd mis Mawrth 2024; c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn
dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau
Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau
newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu
mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat NDM8409 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y pwysau costau byw
parhaus sy'n wynebu rhentwyr; b) y cynnydd rhent
cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22; c) y cynnydd rhent
cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn
nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant; d) mai rhenti
myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y
cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti. 2. Yn credu na ddylai
unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o
ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector
preifat: a) rhewi rhenti; b) cyflwyno mesurau i
wahardd troi allan y gaeaf hwn. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pwysau
parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu. 2. Yn croesawu’r
ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda
Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd
sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n
fforddiadwy i bobl ar incwm isel. 3. Yn croesawu’r camau
pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y
Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb
Cydweithio gyda Phlaid Cymru. 4. Yn credu na ddylai
unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil
budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai; 5. Yn cydnabod mai’r
dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y
sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth
y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent. Papur
Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) cymryd camau brys i
droi’r miloedd o eiddo gwag yng Nghymru yn gartrefi unwaith eto; b) ystyried cyfleoedd
gyda’r sector i atal landlordiaid rhag gadael y farchnad rentu yng Nghymru; c) gweithio gyda
landlordiaid a deiliaid contractau i atal troi pobl allan dros fisoedd y gaeaf; d) cyflwyno cynllun
gweithredu i adeiladu 12,000 o dai bob blwyddyn; ac e)
gwneud datganiad ar yr adolygiad o Rhentu Doeth Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.42 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8409 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu rhentwyr; b) y cynnydd rhent cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn
2021-22; c) y cynnydd rhent cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn
2022-23, gyda Shelter Cymru yn nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y
cant; d) mai rhenti myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth
cyfartalog y DU, gyda 32 y cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â
thalu eu rhenti. 2. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl
o fod yn ddigartref o ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai
fforddiadwy. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a
ganlyn yn y sector preifat: a) rhewi rhenti; b) cyflwyno mesurau i wahardd troi allan y gaeaf hwn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y
mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu. 2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen
Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi
Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti
teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar
incwm isel. 3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a
radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi
Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda
Phlaid Cymru. 4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru
wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n
gysylltiedig â thai. 5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer
mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw
cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau
er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent. Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8409 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y
mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu. 2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu,
fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn
amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd
ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel. 3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a
radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi
Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda
Phlaid Cymru. 4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru
wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n
gysylltiedig â thai. 5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer
mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw
cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau
er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent. Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Peter
Fox (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y bydd
datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a Gwasanaethau
Cymdeithasol Peter
Fox (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y bydd
datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gymru? |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.51 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8406 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De
Sir Benfro) Diogelu
anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin - rhoi pwerau statudol i'r RSPCA Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 NDM8406 Samuel
Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Diogelu anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin - rhoi pwerau
statudol i'r RSPCA |