NDM8410 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG
NDM8410 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG
NDM8410 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu
datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r
Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang
gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd
2023.
3. Yn gresynu:
a) nad yw pob meddygfa
yn defnyddio ap GIG Cymru;
b) nad yw
e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a
c) bod y seilwaith
technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
a) cyflwyno ap y GIG
ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan;
b) cyflymu'r broses o
integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru;
a
c) dechrau ar y broses
o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio.
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl
pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd
sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar
Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau
bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu
yn y dyfodol.
Yn nodi pwysigrwydd
datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal
Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
Yn croesawu:
a) bod dros 200 o
bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r pwriad yw ei
gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth
presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei
lansio; a
d)
gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a
rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu
mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2024