Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Amseriad disgwyliedig: 170 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.36

(30 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth Gyngor Decach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.57

(0 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Sylfaenol - Tynnwyd yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gwerthusiad o’r Cod Ymarfer Awtistiaeth a Niwrowahaniaeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Data ar Leoliadau Tomenni Glo

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.08

(30 munud)

7.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.48

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Dileu TB Buchol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

(30 munud)

9.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050: Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.53

(30 munud)

10.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Anghenion Seilwaith Trawsyrru Trydan Cymru ar gyfer Sero Net

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.27

(15 munud)

11.

Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023

NDM8399 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2023.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.04

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

12.

Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023

NDM8398 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2023.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.15

NDM8398 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2023.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 19.27

NNDM8401 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8400 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

13.

Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

NNDM8400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.28

NNDM8400 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

14.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

NDM8402 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-20; 

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 21-22;

d) Atodlen 2; 

e) Adrannau 23-30;

f) Teitl hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.35

NDM8402 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

a) Adrannau 1-20; 

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 21-22;

d) Atodlen 2; 

e) Adrannau 23-30;

f) Teitl hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

15.

Dadl: Cyfnod 4 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

NDM8403 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8403 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

16.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.48

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: