Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 142(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 13.30, gwnaeth y Llywydd, ar ran y Senedd, ddatganiad
yn estyn cydymdeimlad â theulu a chyfeillion yr Arglwydd John Morris, cyn Ysgrifennydd
Gwladol Cymru. Am 13.32, gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o gydymdeimlad
hefyd. |
||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Am 13.35, cyhoeddodd y
Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, bod y Bil Partneriaethau Cymdeithasol
a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mai 2023. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.35 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.37 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwella Capasiti drwy Ofal Cymunedol – Ymhellach yn Gyflymach Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.53 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 |
|||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Ymateb y llywodraeth i ail gam cyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - GOHIRIWYD TAN 11 GORFFENNAF 2023 Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem hon |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Datblygu Economaidd yn y Canolbarth Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.03 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Sectorau Technoleg a Seiber Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.47 |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am
17.18 NNDM8285 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog
12.20(i) er mwyn caniatáu i NNDM8284 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 6
Mehefin 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 NNDM8284 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft
o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2)
2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2023. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.18 NNDM8284 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn
ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 2) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2023. Dogfennau
Ategol Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro Dechreuodd yr eitem am 17.21 NNDM8287 Mick Antoniw (Pontypridd) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei
gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn
darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er
mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM8286 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mawrth 6 Mehefin. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(30 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) NNDM8286 Mick Antoniw
(Pontypridd) Cynnig bod Senedd
Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a nodir
yn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 5, i’r graddau y maent yn
dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2 Gellir cael copi o'r
Bil ar wefan Senedd y DU: https://bills.parliament.uk/bills/3340 (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NNDM8286 Mick
Antoniw (Pontypridd) Cynnig
bod Senedd Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio), a nodir yn Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif
5, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mai, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2 Gellir
cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU: https://bills.parliament.uk/bills/3340 (Saesneg yn
unig) Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |