Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 104
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog
12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn
ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif
Weinidog. Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23. |
|||||||||
(5 munud) |
Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 NDM8133
Lesley Griffiths
(Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2022. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.42 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8133 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Hydref 2022. Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(45 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon NDM8132
Vaughan Gething
(De Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2022 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.47 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8132 Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2022 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2. Dogfennau
Ategol Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 15.21 a
gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 15.26 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.28. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 16.08. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 16.47. |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 17.12. |