Pobl y Senedd

Vaughan Gething AS

Vaughan Gething AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

De Caerdydd a Phenarth

Gweinidog yr Economi

Gweinidog yr Economi

Mae'r manylion cyswllt a ddarperir yn uniongyrchol ar gyfer Vaughan Gething yn eu rôl fel Aelod o’r Senedd, a dylid eu defnyddio os ydych yn dymuno cysylltu â nhw yn y rôl hon. Os ydych am gysylltu â Vaughan Gething yn eu rôl cwbl ar wahân fel Gweinidog yn Llywodraeth Cymru, defnyddiwch y manylion cyswllt Gweinidogol ar wefan Llywodraeth Cymru:

Canolfan Cyswllt Cyntaf Llywodraeth Cymru: 0300 060 4400

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) i’r graddau y maent yn dod o fewn c...

I'w drafod ar 24/01/2023

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd...

I'w drafod ar 15/11/2022

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhw...

I'w drafod ar 07/03/2022

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Rhenti Masnachol (Coronafeirws), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhw...

I'w drafod ar 01/03/2022

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fe...

I'w drafod ar 30/11/2021

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol i’r graddau y maent yn dod o fewn...

I'w drafod ar 05/01/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Vaughan Gething AS

Bywgraffiad

Gweinidog yr Economi

Hanes personol

Ganwyd Vaughan Gething yn Zambia a chafodd ei fagu yn Dorset. Cafodd ei addysg ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, ac erbyn hyn mae’n byw yn ei etholaeth gyda’i wraig a’i fab.

Cefndir proffesiynol

Roedd Vaughan yn gyfreithiwr ac yn gynbartner yn Thompsons. Mae’n aelod o’r undebau GMB ac Unite, a Vaughan oedd Llywydd ieuengaf erioed y TUC yng Nghymru. Mae wedi gwasanaethu yn y gorffennol fel cynghorydd sir a llywodraethwr ysgol. Mae hefyd wedi bod yn wirfoddolwr gwasanaethau cymunedol – yn rhoi cymorth a gofal i fyfyriwr a oedd yn dioddef o barlys yr ymennydd. Mae hefyd yn gyn-Lywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Hanes gwleidyddol

Rhwng 1999 a 2001, gweithiodd Vaughan fel ymchwilydd i Val Feld a Lorraine Barrett, cyn-Aelodau’r Cynulliad. Rhwng 1999 a 2001, Vaughan oedd cadeirydd Hawl i Bleidleisio - prosiect trawsbleidiol i annog cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gyfrannu mwy ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2011 - 05/04/2016
  2. 06/05/2016 - 28/04/2021
  3. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Vaughan Gething AS