Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 38(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/12/2021 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu - Diweddariad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.47

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.45

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.17 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(0 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy - I'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

Cofnodion:

I’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar

NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Hydref 2021)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Tachwedd 2021)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl: Cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant

NDM7858 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021

Dogfennau Ategol
Y Cynllun Hawliau Plant: llawlyfr i staff Llywodraeth Cymru
Codi ymwybyddiaeth o hawliau plant

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.26

NDM7858 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.55 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.00

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: