Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 13(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 07/07/2021 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.27 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 3 eu ateb gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a
Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Janet
Finch-Saunders (Aberconwy): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau gan arweinwyr y 22 o
awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a chylch gwaith
Cyfoeth Naturiol Cymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.31 I’r Gweinidog Newid
Hinsawdd: Janet Finch-Saunders
(Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i’r galwadau
gan arweinwyr y 22 o awdurdodau lleol Cymru i Lywodraeth Cymru adolygu pwerau a
chylch gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.44 Gwnaeth Huw
Irranca-Davies ddatganiad am Daith Gerdded Fawr Prostate Cymru. Gwnaeth Altaf Hussain
ddatganiad i nodi 26 mlynedd ers Hil-laddiad Srebrenica. |
|||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.48 Yn unol â Rheolau
Sefydlog 12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol aelodau i bwyllgorau eu
grwpio ar gyfer dadl a phleidleisio. NDM7753 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Sarah
Murphy (Llafur Cymru), Ken Skates (Llafur Cymru), Altaf Hussain (Ceidwadwyr
Cymreig), Sioned Williams (Plaid Cymru) a Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol
Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. NDM7754 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Ken
Skates (Llafur Cymru), Buffy Williams (Llafur Cymru), Laura Anne Jones
(Ceidwadwyr Cymreig), James Evans (Ceidwadwyr Cymreig) a Siân Gwenllian (Plaid
Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. NDM7755 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Alun
Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr
Cymreig), Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) a Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. NDM7756 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Hefin
David (Llafur Cymru), Vikki Howells (Llafur Cymru), Sarah Murphy (Llafur
Cymru), Samuel Kurtz (Ceidwadwyr Cymreig), a Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn
aelodau o Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. NDM7757 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Mike
Hedges (Llafur Cymru), Jack Sargeant (Llafur Cymru), Joyce Watson (Llafur
Cymru), Gareth Davies (Ceidwadwyr Cymreig), a Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. NDM7758 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Huw
Irranca-Davies (Llafur Cymru), Jenny Rathbone (Llafur Cymru), Joyce Watson
(Llafur Cymru), Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig), a Delyth Jewell
(Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith. NDM7759 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Hefin
David (Llafur Cymru), Alun Davies (Llafur Cymru), Carolyn Thomas (Llafur
Cymru), Tom Giffard (Ceidwadwyr Cymreig), a Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn
aelodau o’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a
Chysylltiadau Rhyngwladol. NDM7760 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Mike
Hedges (Llafur Cymru), Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Natasha Asghar
(Ceidwadwyr Cymreig) a Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. NDM7761 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Buffy
Williams (Llafur Cymru), Joel James (Ceidwadwyr Cymreig) a Luke Fletcher (Plaid
Cymru) yn aelodau o’r Pwyllgor Deisebau. NDM7762 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 1.
John Griffiths (Llafur Cymru), Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Heledd
Fychan (Plaid Cymru) yn aelodau o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 2.
Rhianon Passmore (Llafur Cymru) ar ran Vikki Howells (Llafur Cymru), Jack
Sargeant (Llafur Cymru) ar ran John Griffiths (Llafur Cymru), Natasha Asghar
(Ceidwadwyr Cymreig) ar ran Andrew RT Davies (Ceidwadwyr Cymreig) a Rhun ap
Iorwerth (Plaid Cymru) ar ran Heledd Fychan (Plaid Cymru), yn aelodau amgen o’r
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. NDM7763 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mike Hedges (Llafur
Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Alun Davies (Llafur Cymru). NDM7764 - Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jayne Bryant (Llafur
Cymru) yn lle Jack Sargeant (Llafur Cymru), a Peter Fox (Ceidwadwyr Cymreig) yn
lle Mark Isherwood (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelodau o’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Derbyniwyd y cynigion yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth NDM7744 Hefin David (Caerffili) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen. 2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein
cymunedau a'n heconomïau lleol. 3. Yn nodi ymhellach
yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a
thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y
flwyddyn. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau
sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y
chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod
ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol. Cyd-gyflwynwyr John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru) Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru) Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 NDM7744 Hefin David (Caerffili) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen. 2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein
cymunedau a'n heconomïau lleol. 3. Yn nodi ymhellach yr
anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a thwristiaeth i
hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn. 5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau sector i'w
strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y chweched Senedd
er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod ganddynt y
gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol. Cyd-gyflwynwyr John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru) Cefnogwyr Carolyn
Thomas (Gogledd Cymru) Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Sarah
Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr) Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 16.36 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd NDM7748 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at: a) methiant llywodraethau
olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y
rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru; b) dosbarthiad annheg
buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru; c) y rhwydwaith
trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig
yng nghefn gwlad Cymru. 2. Yn nodi â phryder
penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) adeiladu ffordd
liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun; b) cael gwared ar
gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru; c) gwella mynediad i
seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol; d)
gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod
trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7748 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn gresynu at: a) methiant llywodraethau
olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y
rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru; b) dosbarthiad annheg
buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru; c) y rhwydwaith
trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig
yng nghefn gwlad Cymru. 2. Yn nodi â phryder
penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) adeiladu ffordd
liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun; b) cael gwared ar
gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru; c) gwella mynediad i
seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol; d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a
rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i
bobl ym mhob rhan o'r wlad. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.31 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i gael
egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.37 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7747 Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Mwy na dim ond gwên: A
yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM7747 Peredur
Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru) Mwy na dim ond gwên: A
yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael triniaeth ddeintyddol sy'n briodol? |