NDM7744 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth
NDM7744 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Busnesau bach a thwristiaeth
NDM7744 Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rôl
sylweddol y mae busnesau bach yn ei chwarae o ran cynnal economïau lleol drwy
gydol pandemig y coronafeirws drwy addasu i amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r
blaen.
2. Yn nodi pwysigrwydd
busnesau bach lleol, yn enwedig rhai yn y sector twristiaeth a'r sectorau
cysylltiedig, wrth i ni adfer o'r pandemig a dechrau ail-adeiladu ein
cymunedau a'n heconomïau lleol.
3. Yn nodi ymhellach
yr anogaeth gref gan Lywodraeth Cymru i bobl fynd ar wyliau yng Nghymru eleni a
mwynhau ei hatyniadau a'i safleoedd o harddwch naturiol eithriadol niferus.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned busnesau bach a
thwristiaeth i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth gynaliadwy drwy gydol y
flwyddyn.
5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r un rhanddeiliaid er mwyn integreiddio'r ddau
sector i'w strategaeth economaidd a chynlluniau adfer COVID-19 yn nhymor y
chweched Senedd er mwyn sicrhau bod y ddau yn cael eu cefnogi'n ddigonol a bod
ganddynt y gwydnwch angenrheidiol i gynnal unrhyw ergydion yn y dyfodol.
Cyd-gyflwynwyr
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd)
Delyth Jewell (Dwyrain De
Cymru)
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru)
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro)
Peredur Owen Griffiths
(Dwyrain De Cymru)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2021