NDM7748 Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

NDM7748 Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

NDM7748 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at:

a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;

b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;

c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;

b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;

c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;

d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2021