Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 333 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Atebwyd cwestiwn 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.19

Gwnaeth Laura Anne Jones ddatganiad ar - Ymgyrch Mind Your Head gan Yellow Wellies.

Gwnaeth Jeremy Miles ddatganiad ar - Teyrnged i gyd-sylfaenydd Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Trust - Martyn Butler.

(5 munud)

5.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau

NDM9168 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1.   Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

6.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog

NDM9171 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1.   Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM9171 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

7.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau gwleidyddol a grwpiadau

NDM9170 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1.   Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau gwleidyddol a grwpiadau (Rheolau Sefydlog 1.3 ac 11.3)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.

2.   Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

NDM9170 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau gwleidyddol a grwpiadau (Rheolau Sefydlog 1.3 ac 11.3)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

8.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol

NDM9167 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1.   Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026. 

9.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

NDM9169 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1.   Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM9169 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2026. 

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

12

45

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

10.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Teithio Llesol yng Nghymru

NDM9153 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Deithio Llesol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2025. 

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2026. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM9153 Mark Isherwood (Gogledd Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Deithio Llesol yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2025. 

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2026. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

11.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau Offthalmoleg yng Nghymru

NDM9152 Peter Fox (Mynwy) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Ymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yn Nghymru’ a osodwyd ar 28 Tachwedd 2025. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2026. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.09

NDM9152 Peter Fox (Mynwy) 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ‘Ymchwiliad i wasanaethau offthalmoleg yn Nghymru’ a  osodwyd ar 28 Tachwedd 2025. 

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2026.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

12.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y GIG a gofal cymdeithasol

NDM9164 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y pwysau parhaus ar y GIG yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros gormodol am driniaeth, oedi o ran ymateb ambiwlansys, adrannau brys gorlawn, a'r defnydd o ofal mewn coridor;

b) pryderon a godwyd gan glinigwyr a chleifion ynghylch diogelwch a chapasiti ar gyfer cleifion ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru; ac

c) yr angen am weithredu brys, system gyfan i adfer perfformiad a hyder y cyhoedd.

2. Yn gresynu bod perfformiad y GIG yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth.

3. Yn credu bod maint yr her yn gofyn am ymateb brys i gynyddu capasiti, gwella llif cleifion a chryfhau gwytnwch ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a gofal cymdeithasol;

b) ailagor wardiau ysbytai cymunedol caeedig i ddarparu gofal cam-i-lawr ac adsefydlu, a gwella llif cleifion;

c) adolygu a chynyddu capasiti gwelyau ysbyty a darpariaeth ymchwydd;

d) sefydlu tîm adfer pwrpasol i GIG Cymru i hyrwyddo gwelliannau mewn amseroedd aros a pherfformiad gofal brys;

e) dod â'r arfer o ofal mewn coridor i ben a dynodi aros 12 awr mewn adrannau brys fel digwyddiadau "byth";

f) gwella recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd;

g) ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig i leihau rhestrau aros;

h) gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys argaeledd apwyntiadau saith diwrnod; ac

i) cyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor i foderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
   
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi

a) buddsoddiad mwy nag erioed Llywodraeth Cymru yn GIG Cymru, sy’n golygu bod Cymru'n gwario 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr;

b) bod y rhestr aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gostwng am saith mis yn olynol a bod arosiadau dwy flynedd ar eu hisaf ers mis Chwefror 2021;

c)  bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys bron chwarter yn is ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â blwyddyn yn ôl; a

d)  bod y nifer uchaf erioed o staff clinigol yn cael eu cyflogi yn y GIG.

2. Yn croesawu'r camau sydd wedi’u cymryd i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG, gan gynnwys fframweithiau uwchgyfeirio newydd ar gyfer y byrddau iechyd a’r cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda sefydliadau GIG Cymru.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. 

Gwelliant 2 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r GIG bob amser aros yn ddi-dâl ar y pwynt cyflwyno.

Yn gresynu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru wedi arwain at rai o ystadegau gwaethaf y GIG yn y Deyrnas Unedig.

Yn cydnabod, yn ôl ystadegau iechyd diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror:

a) bod perfformiad ymateb ambiwlansys wedi gwaethygu ar gyfer amseroedd ymateb galwadau coch canolrifol a 90ain canradd yn ogystal ag amseroedd ymateb galwadau porffor y 90ain canradd;

b) bod rhestrau aros dwy flynedd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod bron i 24 gwaith yn hirach na'r rhestr gyfatebol yn Lloegr, er gwaethaf eu poblogaeth sylweddol uwch; ac

c) bod 11,392 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru ym mis Ionawr, er gwaethaf y ffaith mai'r targed yw dim cleifion yn aros dros 12 awr.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros y GIG a gwella perfformiad y GIG drwy:

a) cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion; a

b) torri gwastraff a biwrocratiaeth i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cyrraedd rheng flaen y GIG.
Cyd-gyflwynwyr 
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru) 
Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
 
Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi’n ei le:

Yn gresynu:

a) at effaith polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru; a

b) at effaith Brexit ar brisiau cyffuriau ar gyfer y GIG

Yn credu bod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod yn gwbl anaddas fel gwarchodwyr y GIG.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu adroddiad Plaid Cymru ar ddiwygiadau llywodraethiant yn y GIG, ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’;

b) gweithredu cynllun Plaid Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng rhestrau aros Llafur, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025;

c) hyrwyddo datblygiad y rhaglen i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, a ddechreuwyd gan Blaid Cymru;

d) cryfhau gofal sylfaenol drwy gynyddu’r gyfran o gyllideb Cymru sy’n cael ei gwario ar Wasanaethau Meddygol Cyffredinol ac adolygu’r fformiwla Carr-Hill; ac

e) cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i fynd i’r afael ag oediadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty gan ryddhau llefydd gwelyau sbâr yn fwy effeithlon.

‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’; 

Cynllun Plaid Cymru ar gyfer yr NHS - Plaid Cymru 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.38

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM9164 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) y pwysau parhaus ar y GIG yng Nghymru, gan gynnwys amseroedd aros gormodol am driniaeth, oedi o ran ymateb ambiwlansys, adrannau brys gorlawn, a'r defnydd o ofal mewn coridor;

b) pryderon a godwyd gan glinigwyr a chleifion ynghylch diogelwch a chapasiti ar gyfer cleifion ar draws system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru; ac

c) yr angen am weithredu brys, system gyfan i adfer perfformiad a hyder y cyhoedd.

2. Yn gresynu bod perfformiad y GIG yng Nghymru, ar ôl 27 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru, yn parhau i fod ymhlith y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig o ran amseroedd aros a mynediad at driniaeth.

3. Yn credu bod maint yr her yn gofyn am ymateb brys i gynyddu capasiti, gwella llif cleifion a chryfhau gwytnwch ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) datgan argyfwng iechyd cenedlaethol i sbarduno gweithredu ar unwaith ar draws y GIG a gofal cymdeithasol;

b) ailagor wardiau ysbytai cymunedol caeedig i ddarparu gofal cam-i-lawr ac adsefydlu, a gwella llif cleifion;

c) adolygu a chynyddu capasiti gwelyau ysbyty a darpariaeth ymchwydd;

d) sefydlu tîm adfer pwrpasol i GIG Cymru i hyrwyddo gwelliannau mewn amseroedd aros a pherfformiad gofal brys;

e) dod â'r arfer o ofal mewn coridor i ben a dynodi aros 12 awr mewn adrannau brys fel digwyddiadau "byth";

f) gwella recriwtio, cadw a hyfforddi meddygon, deintyddion, nyrsys a bydwragedd;

g) ehangu canolfannau llawfeddygol a chapasiti diagnostig i leihau rhestrau aros;

h) gwella mynediad at wasanaethau meddygon teulu, gan gynnwys argaeledd apwyntiadau saith diwrnod; ac

i) cyhoeddi cynllun gweithlu a seilwaith hirdymor i foderneiddio'r GIG a'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

35

46

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi

a) buddsoddiad mwy nag erioed Llywodraeth Cymru yn GIG Cymru, sy’n golygu bod Cymru'n gwario 9 y cant yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr;

b) bod y rhestr aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd wedi gostwng am saith mis yn olynol a bod arosiadau dwy flynedd ar eu hisaf ers mis Chwefror 2021;

c)  bod oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys bron chwarter yn is ym mis Ionawr 2026 o'i gymharu â blwyddyn yn ôl; a

d)  bod y nifer uchaf erioed o staff clinigol yn cael eu cyflogi yn y GIG.

2. Yn croesawu'r camau sydd wedi’u cymryd i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG, gan gynnwys fframweithiau uwchgyfeirio newydd ar gyfer y byrddau iechyd a’r cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus gyda sefydliadau GIG Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

34

47

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwrthodwyd gwelliant 1

Gwelliant 2 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) 

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu y dylai'r GIG bob amser aros yn ddi-dâl ar y pwynt cyflwyno.

Yn gresynu bod 27 mlynedd o Lywodraethau Llafur Cymru gyda chefnogaeth Plaid Cymru wedi arwain at rai o ystadegau gwaethaf y GIG yn y Deyrnas Unedig.

Yn cydnabod, yn ôl ystadegau iechyd diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd ar 19 Chwefror:

a) bod perfformiad ymateb ambiwlansys wedi gwaethygu ar gyfer amseroedd ymateb galwadau coch canolrifol a 90ain canradd yn ogystal ag amseroedd ymateb galwadau porffor y 90ain canradd;

b) bod rhestrau aros dwy flynedd y GIG yng Nghymru yn parhau i fod bron i 24 gwaith yn hirach na'r rhestr gyfatebol yn Lloegr, er gwaethaf eu poblogaeth sylweddol uwch; ac

c) bod 11,392 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn adrannau brys yng Nghymru ym mis Ionawr, er gwaethaf y ffaith mai'r targed yw dim cleifion yn aros dros 12 awr.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau rhestrau aros y GIG a gwella perfformiad y GIG drwy:
a) cynnal adolygiad cynhwysfawr o drefniadau llywodraethiant, arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar draws holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gyda'r bwriad o gryfhau goruchwyliaeth, gwella perfformiad, a sicrhau safonau gofal cyson i gleifion; a

b) torri gwastraff a biwrocratiaeth i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cyrraedd rheng flaen y GIG.

Cyd-gyflwynwyr 
Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

0

44

46

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Heledd Fychan (Canol De Cymru) 
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi’n ei le:

Yn gresynu:

a) at effaith polisïau llymder Llywodraeth Geidwadol flaenorol y DU ar ganlyniadau iechyd yng Nghymru; a

b) at effaith Brexit ar brisiau cyffuriau ar gyfer y GIG

Yn credu bod Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod yn gwbl anaddas fel gwarchodwyr y GIG.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithredu adroddiad Plaid Cymru ar ddiwygiadau llywodraethiant yn y GIG, ‘System Iechyd Cymru: Atebolrwydd, Perfformiad a Diwylliant’;

b) gweithredu cynllun Plaid Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng rhestrau aros Llafur, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025;

c) hyrwyddo datblygiad y rhaglen i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, a ddechreuwyd gan Blaid Cymru;

d) cryfhau gofal sylfaenol drwy gynyddu’r gyfran o gyllideb Cymru sy’n cael ei gwario ar Wasanaethau Meddygol Cyffredinol ac adolygu’r fformiwla Carr-Hill; ac

e) cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol i fynd i’r afael ag oediadau rhyddhau cleifion o’r ysbyty gan ryddhau llefydd gwelyau sbâr yn fwy effeithlon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

36

46

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

(5 munud)

13.

Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

NDM9166 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: 

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: 

a) Adrannau 1 - 6; 

b) Atodlen 1; 

c) Adrannau 7 - 12; 

d) Teitl hir. 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.43

NDM9166 Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: 

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i'r Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: 

a) Adrannau 1 - 6; 

b) Atodlen 1; 

c) Adrannau 7 - 12; 

d) Teitl hir. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

14.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.43

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

15.

Dadl Fer

NDM9165 Buffy Williams (Rhondda) 

Cymoedd actif, bywydau iachach - sut y gall chwaraeon llawr gwlad a chymunedol newid bywydau.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.48