Gwasanaethau offthalmoleg

Gwasanaethau offthalmoleg

Inquiry4

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal Ymchwiliad byr i wasanaethau offthalmoleg yng Nghymru, gan gynnwys ystyried y canlynol:

 

>>>> 

>>>Diwygio sefydliadol ac effeithlonrwydd gwasanaethau: archwilio ymdrechion Llywodraeth Cymru i integreiddio optometryddion gofal sylfaenol a chymunedol i’r model gwasanaeth gofal llygaid, gan ganolbwyntio ar ailgynllunio llwybrau atgyfeirio i wella mynediad cleifion, tra hefyd yn gwerthuso’r modd y mae polisïau’r llywodraeth yn cefnogi byrddau iechyd i wneud y newidiadau hyn, ac alinio arweinyddiaeth i ysgogi gwelliannau.

 

>>>Ehangu’r gweithlu a hyfforddiant: adolygu ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu capasiti hyfforddi, ehangu rolau optometryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, a gwerthuso effaith Rhaglen Recriwtio Ryngwladol Cymru Gyfan ar brinder staff. Asesu’r modd y mae mentrau’r gweithlu’n cyd-fynd â’r Cynllun Gweithlu Cenedlaethol, ac effeithiolrwydd buddsoddiad i drawsnewid y gweithlu optometreg i leihau dibyniaeth ar ysbytai.

 

>>>Gwelliannau i ysbytai a seilwaith: adolygu cynnydd o ran uwchraddio cyfleusterau ysbytai, a mynd i’r afael â lleoedd sydd wedi dyddio, ymchwilio i oedi wrth roi systemau digidol – megis y cofnod cleifion electronig offthalmig a systemau atgyfeirio gofal llygaid – ar waith, ac asesu cyllid a chanlyniadau ar gyfer gwelliannau seilwaith mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Ymchwilio i effaith oedi wrth roi systemau digidol gwell ar waith, a’u gallu i ryngweithredu. Asesu cynlluniau i ateb y galw cynyddol mewn offthalmoleg, gan gynnwys defnyddio offer telefeddygaeth a deallusrwydd artiffisial i wella gofal.

 

>>>Rhwydweithiau clinigol a mynediad cyfartal at ofal: adolygu prosesau sefydlu rhwydweithiau clinigol i sicrhau gofal cyfartal ar draws rhanbarthau, gan fynd i'r afael â gwahaniaethau o ran darparu gofal a pherfformiad amseroedd aros. Gwerthuso dull Llywodraeth Cymru o ddosbarthu gwasanaethau a gweithlu rhanbarthol, a’r modd y gall rhwydweithiau clinigol wella cydweithio rhwng byrddau iechyd, a chanlyniadau cleifion. Hefyd, asesu effeithiolrwydd llwybrau gofal newydd wrth flaenoriaethu cleifion risg uchel, a defnyddio optometryddion yn y gymuned ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai cymhleth. Yn olaf, archwilio cydweithio rhwng byrddau iechyd a sefydliadau'r trydydd sector, megis y Llwybr Cefnogi Gofal Llygaid, er mwyn sicrhau cefnogaeth gyfannol i gleifion.

 

>>>Goruchwylio a rhoi ar waith: gwerthuso goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru o ran rhoi’r strategaeth ar waith, gan gynnwys ymrwymiad arweinyddiaeth ar lefel byrddau iechyd. Asesu rôl Iechyd a Gofal Digidol Cymru o ran cyflymu’r broses o gyflwyno systemau TG. Ymchwilio i’r modd yr eir i'r afael ag oedi ac aneffeithlonrwydd, a pha gosbau neu fesurau unioni sydd ar waith ar gyfer amserlenni a fethwyd.

<<< 

 

Adroddiad

>>>> 

>>>Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 28 Tachwedd 2025.

<<< 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/02/2025

Dogfennau