Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 332
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn y Siambr ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Datganiad gan y Llywydd Am 13.30, croesawodd y Llywydd
yr Aelodau yn ôl i’r Siambr. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.32 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.34 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynllun Buddsoddi Cronfa Twf Lleol Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: Cefnogi’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.01 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Cymunedau Cymraeg Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.38 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gefnogol a Chynhwysol ar gyfer Dyfodol Mwy Disglair Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 NDM9161 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf
Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.02 NDM9161 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022
(Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 NDM9160 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau Amrywiol)
(Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 NDM9160 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn
cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau
Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion
Cyfrifol) a Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Diwygiadau
Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 NDM9162 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026. Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.16 NDM9162 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Atchwanegiadau Bwyd (Magnesiwm L-threonad monohydrad) (Cymru) 2026 yn cael ei
llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Ionawr 2026. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Rheoliadau Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 NDM9159 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Addysg
Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM9159 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau
Addysg Uwch (Terfynau Ffioedd) (Cymru) 2026 yn cael ei llunio yn unol â’r
fersiwn ddrafft a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2026. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Troseddu a Phlismona - gohiriwyd tan 10 Mawrth Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon tan 10 Mawrth. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd NDM9156 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Dioddefwyr a’r
Llysoedd i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu
hystyried gan Senedd y DU. Cafodd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ei osod ar 20 Mai 2025, a chafodd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei osod ar 5 Tachwedd 2025, yn unol â Rheol Sefydlog
29.2. Gellir gweld copi o’r Bil ar
wefan Senedd y DU: Bil Dioddefwyr a’r Llysoedd - Parliamentary Bills - UK
Parliament Dogfennau ategol: Adroddiadau’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2. Ymateb y Llywodraeth i
adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhif 1 a rhif 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.26 NDM9156 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil
Dioddefwyr a’r Llysoedd i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig,
gael eu hystyried gan Senedd y DU. Cafodd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ei osod ar
20 Mai 2025, a chafodd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ei osod ar 5 Tachwedd 2025, yn unol â Rheol Sefydlog
29.2. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cynlluniau Pensiwn NDM9158 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil Cynlluniau
Pensiwn i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu
hystyried gan Senedd y DU. Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2025, a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gellir gweld copi o’r Bil ar
wefan Senedd y DU: Pension Schemes Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament Dogfennau ategol: Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.32 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM9158 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai y darpariaethau yn y Bil
Cynlluniau Pensiwn i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael
eu hystyried gan Senedd y DU. Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2025, a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2026 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) NDM9157 Jeremy Miles (Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau
canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn
rhoi sylw i faterion datganoledig: a) Cymal 4(3A) (Voluntary
Assisted Dying Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4,
tudalen 2, llinell 29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b)) b) Cymal 40 (Guidance about
operation of Act) c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6)
(Voluntary assisted dying services: Wales) d) Cymal 47(3A) (Reporting on
implementation of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784) e) Cymal 49 (Monitoring by
Commissioner) (i’w ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809) f) Cymal 50(4) (Review of this
Act) (i’w fewnosod gan Welliant 824) g) Cymal 51(1), (2), (3), (5),
(6) a (7) (Provision about the Welsh language) h) Cymal 54(1), (2), (5), (6)
(Regulations) (i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A) i) Cymal 55(3) (Duty to
consult before making regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A) j) Cymal 58(5), (7), (8)
(Commencement) (i’w ddiwygio gan Welliant 905A) Troednodyn: Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 9 Ebrill
2025, a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 4 Gorffennaf
2025, 23 Rhagfyr
2025 a 16 Chwefror
2026, yn unol â Rheol Sefydlog
29.2. Mae’r rhifau Cymalau a restrir
yn y cynnig hwn yn unol â’r fersiwn ddiweddaraf a gyhoeddwyd o’r Bil fel y’i
dygwyd o Dŷ’r Cyffredin ar 23 Mehefin 2025, a gellir dod o hyd i’r
gwelliannau yn y Rhestr
Gyntaf hyd at y Nawfed o Welliannau wedi’u Didoli ac ym Mhapur HL Bill
112-IX(b) (sy’n atodol i’r Nawfed Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli). Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar y Memorandwm Atodol (Rhif 3) ac Ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw. Gellir cael copi o’r Bil ar
wefan Senedd y DU: Y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) - Biliau Seneddol -
Senedd y DU Dogfennau ategol: Adroddiadau’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3. Ymateb y Llywodraeth i
adroddiadau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a‘r Cyfansoddiad ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif
3. Adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol ar femoranda rhifau 1 a 2 a rhif 3. Ymateb y Llywodraeth i
adroddiadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar femoranda rhifau 1 a 2. Cyflwynwyd y gwelliannau a
ganlyn: Gwelliant 1: Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg
ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y
broses ddeddfwriaethol. Gwelliant 2: Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Cymru gael
pwerau llawn i ddewis deddfu neu beidio ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu
gwasanaethau marw â chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Gwelliant 3: Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, Senedd y DU a hyrwyddwyr y Bil i gynnwys
darpariaeth yn y Bil i ddileu'r mater a gedwir yn ôl ynghylch y gyfraith
droseddol ar hunanladdiad ym mharagraff 199 yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1: Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o
oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2: Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Cymru gael pwerau llawn i ddewis
deddfu neu beidio ynghylch cyfreithlondeb a gweithredu gwasanaethau marw â
chymorth, fel sy'n digwydd yn yr Alban. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3: Heledd Fychan (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
sylwadau i Lywodraeth y DU, Senedd y DU a hyrwyddwyr y Bil i gynnwys
darpariaeth yn y Bil i ddileu'r mater a gedwir yn ôl ynghylch y gyfraith
droseddol ar hunanladdiad ym mharagraff 199 yn Atodlen 7A i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. NDM9157 Jeremy
Miles (Castell-nedd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau canlynol yn y Bil Oedolion Terfynol
Sâl (Diwedd Oes), i’r graddau y maent yn rhoi sylw i faterion datganoledig: a) Cymal 4(3A) (Voluntary Assisted Dying
Commissioner) (i’w fewnosod gan welliant ar ddiwedd Cymal 4, tudalen 2, llinell
29 ac wedi’i restru ym mhapur HL Bill 112-IX(b)) b) Cymal 40 (Guidance about operation of Act) c) Cymal 42(1), (2), (5) a (6) (Voluntary
assisted dying services: Wales) d) Cymal 47(3A) (Reporting on implementation
of Act) (i’w fewnosod gan Welliant 784) e) Cymal 49 (Monitoring by Commissioner) (i’w
ddiwygio gan Welliannau 804 ac 809) f) Cymal 50(4) (Review of this Act) (i’w
fewnosod gan Welliant 824) g) Cymal 51(1), (2), (3), (5), (6) a (7)
(Provision about the Welsh language) h) Cymal 54(1), (2), (5), (6) (Regulations)
(i’w ddiwygio gan Welliannau 857CA ac 872A) i) Cymal 55(3) (Duty to consult before making
regulations) (i’w fewnosod gan Welliant 877A) j) Cymal 58(5), (7), (8) (Commencement) (i’w
ddiwygio gan Welliant 905A) 2. Yn gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o
oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) NDM9163 Jane Hutt
(Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau
a’r atodlenni i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn
ganlynol: a) Adran 2; b) Atodlen 1; c) Adrannau 3 i 75; d) Adran 1; e) Adrannau 76 i 107; f) Atodlen 2; g) Adrannau 108 i 128; h) Atodlen 3; i) Atodlen 4; j) Adrannau 129 i 130; k) Teitl hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
20.35 NDM9163 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r
adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y
drefn ganlynol: a) Adran 2; b) Atodlen 1; c) Adrannau 3 i 75; d) Adran 1; e) Adrannau 76 i 107; f) Atodlen 2; g) Adrannau 108 i 128; h) Atodlen 3; i) Atodlen 4; j) Adrannau 129 i 130; k) Teitl hir. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) NDM9172 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â
Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil yr
Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 20.35 NDM9172 Huw Irranca-Davies (Ogwr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion,
Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr
eitem am 20.44 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
PDF 314 KB