Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyfeirnod: 285 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2025 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. 
Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 5 a 9 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. 
Gweld y Cwestiynau
 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 5, 7 ac 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 4 a 6 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at ailddosbarthu rhaglen rheilffordd y dwyrain a’r gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt o fod yn brosiect 'Lloegr yn unig' i fod yn brosiect 'Cymru a Lloegr'?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.18
Atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r amgylchiadau a arweiniodd at ailddosbarthu rhaglen rheilffordd y dwyrain a’r gorllewin rhwng Rhydychen a Chaergrawnt o fod yn brosiect 'Lloegr yn unig' i fod yn brosiect 'Cymru a Lloegr'?

 

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.28

Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl babanod 2025 (9 tan 15 Mehefin).

Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad am – PONT: 20 mlynedd o bartneriaeth dramor (2025).

Gwnaeth Hannah Blythyn ddatganiad am - Mis Pride (Mehefin).

Gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad am - Billy Boston yn cael ei urddo’n farchog.

(5 munud)

5.

Diddymu pwyllgorau

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

 

NDM8922 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei sefydlu ar 12 Gorffennaf 2023 at ddiben craffu ar y Biliau yn ymwneud â diwygio'r Senedd a gyfeiriwyd ato gan y Pwyllgor Busnes.

2. Yn nodi nad yw'r Pwyllgor Busnes yn bwriadu cyfeirio rhagor o faterion at y Pwyllgor.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Biliau Diwygio ddod i ben.

 

NDM8924 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ei sefydlu ar 16 Hydref 2024 i ystyried a chyflwyno adroddiadau erbyn 9 Mai 2025 ar: trefniadaeth busnes yn y Seithfed Senedd; rhwystrau i gyfranogiad cynrychiolwyr; a’r trothwyon a nodir yn y Rheolau Sefydlog.

2. Yn nodi bod y Pwyllgor wedi gosod ei adroddiadau ar 28 Chwefror 2025 a 9 Mai 2025.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai Pwyllgor Senedd y Dyfodol ddod i ben.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.36

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

NDM8922 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ei sefydlu ar 12 Gorffennaf 2023 at ddiben craffu ar y Biliau yn ymwneud â diwygio'r Senedd a gyfeiriwyd ato gan y Pwyllgor Busnes.

2. Yn nodi nad yw'r Pwyllgor Busnes yn bwriadu cyfeirio rhagor o faterion at y Pwyllgor.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai'r Pwyllgor Biliau Diwygio ddod i ben.

 Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

NDM8924 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cafodd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ei sefydlu ar 16 Hydref 2024 i ystyried a chyflwyno adroddiadau erbyn 9 Mai 2025 ar: trefniadaeth busnes yn y Seithfed Senedd; rhwystrau i gyfranogiad cynrychiolwyr; a’r trothwyon a nodir yn y Rheolau Sefydlog.

2. Yn nodi bod y Pwyllgor wedi gosod ei adroddiadau ar 28 Chwefror 2025 a 9 Mai 2025.

3. Yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, y dylai Pwyllgor Senedd y Dyfodol ddod i ben.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd

NDM8918 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol: 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd' a osodwyd ar 6 Mawrth 2025.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.37

NDM8918 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Os yw’r Gefnogaeth yn Gywir, Amdani! Mynd i’r afael â’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd' a osodwyd ar 6 Mawrth 2025.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Yr Economi werdd

NDM8919 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Werdd, a osodwyd ar 14 Mawrth 2025.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno 4 Mehefin 2025.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.33

NDM8919 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr Economi Werdd, a osodwyd ar 14 Mawrth 2025.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2025.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni solar

NDM8917 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod paneli solar ar dir amaethyddol;

b) cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; ac

c) datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: 

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)   
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)    parhau i gydweithio â datblygwyr ar gyfer prosiectau solar fel y bo angen, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn deall y polisïau cynllunio cadarn sydd mewn grym yng Nghymru; a
b)    parhau i fynd i’r afael â’r gwaith ar y cynnig i’r sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn cynnwys technolegau solar, gan barhau â gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wynt ar y Môr.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.10 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM8917Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 

Cynnig bod ySenedd: 

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) cyhoeddi moratoriwm ar bob cais i osod panelisolar ar dir amaethyddol; 

b) cynnal adolygiad o botensial ynni solar yng Nghymru; ac 

c) datblygu strategaeth solar ar gyfer Cymru. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

13 

10 

23 

46 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1Jane Hutt (Bro Morgannwg)    
Dileu popeth a rhoi yn ei le: 
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 
a)
    parhau i gydweithio â datblygwyr ar gyfer prosiectau solar fel y bo angen, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn deall y polisïau cynllunio cadarn sydd mewn grym yng Nghymru; a 
b)
    parhau i fynd i’r afael â’r gwaith ar y cynnig i’r sector ynni adnewyddadwy, a fydd yn cynnwys technolegau solar, gan barhau â gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Wynt ar y Môr. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

23 

24 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.   

 

(60 munud)

9.

Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU

NDM8923 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y bydd Llywodriaeth y DU yn cyhoeddi casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin.

2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd:

a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru;

b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd; ac

c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant.

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 billwn o gyllid canlyniadol HS2 a datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru;

b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed;

c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr; a

d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth gyffredinol a delir.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, gan nodi'r goblygiadau i Gymru, ar ôl iddi ddadansoddi'r goblygiadau hynny, yn dilyn cyhoeddiadau ar 11 Mehefin.

Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi cyflwyno lwfans Tanwydd Gaeaf Cymru;
b) gwario codiad llawn Barnett ar gyfer iechyd, ar iechyd;
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr;
d) pwyso ymhellach ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r dreth ffermydd teuluol; ac
e) cadarnhau y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o wariant HS2 yn cael eu gwario ar brosiectau Cymru yn unig.

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.04 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM8923Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin. 

2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd: 

a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru; 

b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd; ac 

c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn unol â chwyddiant. 

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i: 

a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 biliwn o gyllid canlyniadol HS2 a datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru; 

b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed; 

c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau yswiriant gwladol cyflogwyr; a 

d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth gyffredinol a delir. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

11 

35 

46 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1Jane Hutt (Bro Morgannwg) 
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: 
Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU, gan nodi'r goblygiadau i Gymru, ar ôl iddi ddadansoddi'r goblygiadau hynny, yn dilyn cyhoeddiadau ar 11 Mehefin. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

23 

24 

47 

Gwrthodwyd gwelliant 1. 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 2Paul Davies (Preseli Sir Benfro) 
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 
a) cefnogi cyflwyno lwfans Tanwydd Gaeaf Cymru; 
b) gwario codiad llawn Barnett ar gyfer iechyd, ar iechyd; 
c) pwyso ar Lywodraeth y DU i wrthdroi'r cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; 
d) pwyso ymhellach ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r dreth ffermydd teuluol; ac 
e) cadarnhau y bydd symiau canlyniadol sy'n deillio o wariant HS2 yn cael eu gwario ar brosiectau Cymru yn unig. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

12 

34 

46 

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. 

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.55 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: