NDM8923 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU
NDM8923 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o wariant Llywodraeth y DU
NDM8923 Heledd Fychan (Canol
De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Llywodriaeth y DU yn cyhoeddi
casgliadau ei hadolygiad o wariant ar 11 Mehefin.
2. Yn gresynu bod penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth
Lafur y DU dros y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith anghymesur ar Gymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU
i gyflwyno bil tegwch economaidd sydd:
a) yn sicrhau cyllid teg i Gymru;
b) yn datganoli pwerau i greu bandiau treth incwm newydd;
ac
c) yn cynyddu terfynau tynnu i lawr a phwerau benthyca yn
unol â chwyddiant.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:
a) mynd i’r afael â’r tanfuddsoddiad hanesyddol yn
seilwaith rheilffyrdd Cymru, ymrwymo i’r £4 billwn o gyllid canlyniadol HS2 a
datganoli pwerau a chyllid dros seilwaith rheilffyrdd i Gymru;
b) adfer y taliad tanwydd gaeaf fel darpariaeth
gyffredinol a chael gwared ar y cap budd-daliadau dau blentyn yn ddi-oed;
c) ad-dalu Llywodraeth Cymru yn llawn am effaith codiadau
yswiriant gwladol cyflogwyr; a
d) cyflwyno treth ar gyfoeth, gan sicrhau bod y baich ar
yr unigolion a’r corfforaethau sy'n gallu ysgwyddo cyfran decach o’r dreth
gyffredinol a delir.
Math o fusnes: Dadl
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/06/2025