Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyfeirnod: 215
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/06/2024 - Y Cyfarfod Llawn
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.32 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol I ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Mabon
ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet
ddatganiad am gynnig cyflog diwygiedig Llywodraeth Cymru i BMA Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 Atebwyd
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mabon ap Gwynfor (Dwyfor
Meirionnydd):
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnig cyflog diwygiedig
Llywodraeth Cymru i BMA Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.29 Gwnaeth
Altaf Hussain ddatganiad am - Wythnos Gofalwyr
(10-16 Mehefin). Gwnaeth
Carolyn Thomas ddatganiad am -
200 mlynedd o’r RSPCA (16 Mehefin). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am
15.33 Yn unol â Rheolau
Sefydlog 12.24 a 12.40, cafodd y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu
grwpio ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio: NNDM8609 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Luke Fletcher (Plaid Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Deisebau yn lle Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru). NNDM8610 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Siân Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn lle Luke Fletcher (Plaid Cymru). NNDM8611 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol yn lle Llyr Gruffydd (Plaid Cymru). NNDM8612 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Cefin Campbell (Plaid Cymru) yn aelod o’r
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Heledd Fychan (Plaid Cymru). NNDM8613 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mabon ap Gwynfor (Plaid
Cymru) yn lle Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad COVID-19 Cymru. Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru NDM8601 Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013,
ac o dan Reol Sefydlog 10.5: Yn penodi Dr Ian Rees yn
Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 12 Mehefin 2024 tan 11 Mehefin 2028. Noder:
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Benodi
Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 23 Mai 2024. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.34 NDM8601 Peredur Owen Griffiths (Dwyrain
De Cymru) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5: Yn
penodi Dr Ian Rees yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 12 Mehefin 2024 tan
11 Mehefin 2028. Noder: Gosodwyd adroddiad y
Pwyllgor Cyllid ar Benodi Cadeirydd ac Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa
Archwilio Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030 NDM8602 Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Gweithredu, nid geiriau:
creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030’, a osodwyd ddydd Gwener 15 Mawrth
2024. Noder:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2024. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.36 NDM8602 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ‘Gweithredu,
nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030’, a osodwyd ddydd Gwener 15
Mawrth 2024. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Polisi economaidd NDM8606 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu: a) cynllun clir a chamau
dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr er mwyn sicrhau dyfodol diogel; b) camau Llywodraeth y
DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant; c) y ffaith mai’r DU
yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7; d) y bargeinion twf
rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai Cymru yw’r unig genedl
Bargeinion Twf yn y DU; ac e) porthladdoedd rhydd
Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd â’i pharthau buddsoddi ar
gyfer gweithgynhyrchu uwch. 2. Yn gresynu bod gan
Gymru, o dan Lywodraeth Cymru: a) y gyfradd gyflogaeth
isaf; b) y cyflogau canolrifol
isaf; ac c) y gyfradd uchaf o
anweithgarwch economaidd yn y DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy: a) sicrhau ffyniant
broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; b) adfer rhyddhad
ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden
i gefnogi busnesau a diogelu swyddi; c) cael gwared ar
ardrethi busnes i fusnesau bach; d) galluogi
microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant gwladol ar ran y
cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd; e) cyflwyno 150,000 o
brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac f) creu cynllun i roi
hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau. Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu: a) cynllun clir
Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd:
Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach; b) y ffaith bod cyflogau
wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011; c) y ffaith bod gwaith
rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn; d) buddsoddiad
gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel; e) y ffaith bod
Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc; f) y buddsoddiad sydd
wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru; g) darparu gwerth
dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr
oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a h) y cyfraniad o £78m
sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth
bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig. 2. Yn gresynu at y
canlynol o dan Lywodraeth y DU: a) diffyg cynllun
economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25,
gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn; b) bod prisiau’n
parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers
annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill
nag oeddent dair blynedd cyn hynny; c) bod gan
Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai
wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a d) bod gan Gymru
bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant
Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle
cyllid yr UE. 3. Yn galw ar
Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod: a) mai’r
newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif
resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant; b) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu,
sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad
ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru; c) y niwed sylweddol a
wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu
bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a d) y cafodd y Gronfa
Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith
cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Gwelliant 2 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu pwynt 1 a rhoi yn
ei le: Yn gresynu: a) y difrod economaidd a
wnaed i Gymru yn sgil 14 mlynedd o gyni o dan Lywodraethau Ceidwadol y DU; b) y niwed economaidd
pellach a achoswyd gan Brexit caled a mini-gyllideb honedig Liz Truss; c) nad yw Cymru'n derbyn
cyllid teg gan San Steffan, ac nad yw fformiwla Barnett yn darparu setliad
ariannu sy'n adlewyrchu anghenion economaidd, ariannol neu gymdeithasol Cymru; d) bod Llywodraethau
Ceidwadol y DU yn amlwg wedi methu â chodi'r gwastad o ran Cymru, a bod y
Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro wedi cael eu defnyddio i
ariannu prosiectau tymor byr dros benaethiaid Llywodraeth Cymru a'r Senedd; ac e) y cyfraddau uchel o
dlodi, yn enwedig tlodi plant, sydd wedi deillio yn sgil dull y
Ceidwadwyr o reoli economi'r DU. Gwelliant 3 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Ym mhwynt 2, cynnwys
is-bwynt newydd cyn is-bwynt (a) ac ailrifo yn unol â hynny: dim targedau datblygu
economaidd diffiniedig na mesuradwy clir; Gwelliant 4 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi drwy: a) sicrhau ffyniant
broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; b) adfer rhyddhad
ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a
hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi; c) gosod targedau
economaidd clir a mesuradwy; d) darparu gwell cynnig
cymorth busnes a gwell cymorth cynllunio olyniaeth ar gyfer busnesau bach a
chanolig domestig; e) cyflwyno ymchwil ar
drethi newydd posibl er budd busnesau; f) darparu 150,000 o
brentisiaethau newydd dros dymor nesaf y Senedd; a g) creu cynllun i roi
hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn cefnogi egin fusnesau. Gwelliant 5 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y
DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy: a) ceisio sicrhau bod y
DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar
frys; b) cael gwared ar
fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n
adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a c)
sicrhau bod cyfran deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a
bod cyllid i Gymru a gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.24 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8606 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu: a) cynllun clir a chamau dewr Llywodraeth y DU i bennu llwybr
er mwyn sicrhau dyfodol diogel; b) camau Llywodraeth y DU i leihau chwyddiant o 11.1 y cant i 2.3 y cant;
c) y ffaith mai’r DU yw’r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y G7; d) y bargeinion twf rhanbarthol ym mhob rhan o Gymru, sy'n sicrhau mai
Cymru yw’r unig genedl Bargeinion Twf yn y DU; ac e) porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU yng ngogledd a de Cymru, ynghyd
â’i pharthau buddsoddi ar gyfer gweithgynhyrchu uwch. 2. Yn gresynu bod gan Gymru, o dan Lywodraeth Cymru: a) y gyfradd gyflogaeth isaf; b) y cyflogau canolrifol isaf; ac c) y gyfradd uchaf o anweithgarwch economaidd yn y DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu amgylchedd i fusnesau fuddsoddi a
chreu swyddi drwy: a) sicrhau ffyniant broydd ledled Cymru gyda lefelau cymesur o
fuddsoddiad ym mhob rhan o’r wlad; b) adfer rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector
manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau a diogelu swyddi; c) cael gwared ar ardrethi busnes i fusnesau bach; d) galluogi microfusnesau i dyfu gyda chynllun sbardun gan dalu yswiriant
gwladol ar ran y cyflogwr ar gyfer dau gyflogai am ddwy flynedd; e) cyflwyno 150,000 o brentisiaethau newydd yn nhymor y Senedd nesaf; ac f) creu cynllun i roi hwb i fusnesau lleol, a'i ariannu'n llawn, er mwyn
cefnogi egin fusnesau.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu: a) cynllun clir
Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd:
Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach; b) y ffaith bod cyflogau
wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011; c) y ffaith bod gwaith
rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn; d) buddsoddiad
gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel; e) y ffaith bod
Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc; f) y buddsoddiad sydd
wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru; g) darparu gwerth
dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr
oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a h) y cyfraniad o £78m
sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth
bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig. 2. Yn gresynu at y
canlynol o dan Lywodraeth y DU: a) diffyg cynllun
economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25,
gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn; b) bod prisiau’n
parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers
annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill
nag oeddent dair blynedd cyn hynny; c) bod gan
Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai
wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a d) bod gan Gymru
bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant
Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle
cyllid yr UE. 3. Yn galw ar
Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod: a) mai’r
newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif
resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant; b) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu,
sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad
ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru; c) y niwed sylweddol a
wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu
bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a d) y cafodd y Gronfa
Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith
cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol. Gwelliant 5 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y
DU sy'n dod i mewn i weithredu i sicrhau dyfodol economaidd Cymru drwy: a) ceisio sicrhau bod y
DU yn ailymuno â marchnad sengl ac undeb tollau'r UE, a hynny ar
frys; b) cael gwared ar
fformiwla Barnett, a chyflwyno setliad cyllido teg newydd i Gymru sy'n
adlewyrchu anghenion Cymru yn gywir; a c) sicrhau bod cyfran
deg o gyllid allforio'r DU yn cael ei ddarparu i Gymru, a bod cyllid i Gymru a
gollwyd o ganlyniad i Brexit yn cael ei adfer. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn croesawu: a) cynllun clir
Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y ddogfen Cenhadaeth Economaidd:
Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach; b) y ffaith bod cyflogau
wedi codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn Lloegr ers 2011; c) y ffaith bod gwaith
rhanbarthol a phartneriaethau mor gadarn; d) buddsoddiad
gwerth dros £143 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn prentisiaethau o safon uchel; e) y ffaith bod
Gwarant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 27,000 o bobl ifanc; f) y buddsoddiad sydd
wedi parhau drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru; g) darparu gwerth
dros £140m mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sy’n cefnogi trethdalwyr
oddeutu 70,000 eiddo ledled Cymru bob blwyddyn; a h) y cyfraniad o £78m
sy’n golygu bod busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi derbyn cymorth
bob blwyddyn am y pum mlynedd diwethaf gyda’u biliau ardrethi annomestig. 2. Yn gresynu at y
canlynol o dan Lywodraeth y DU: a) diffyg cynllun
economaidd a diwydiannol clir heb unrhyw gynlluniau gwario manwl ar ôl 2024-25,
gan arwain at 14 o flynyddoedd o anrhefn; b) bod prisiau’n
parhau i godi ar gyfradd uwch, sy’n golygu mai dyma’r cynnydd mwyaf ers
annibyniaeth Banc Lloegr, a’r ffaith eu bod 21.3 y cant yn uwch ym mis Ebrill
nag oeddent dair blynedd cyn hynny; c) bod gan
Lywodraeth Cymru Gyllideb yn 2024-25 sy’n £3 biliwn yn is na chyllideb a fyddai
wedi cynyddu yn unol â Chynnyrch Domestig Gros ers 2010; a d) bod gan Gymru
bron i £1.3 biliwn yn llai o gyllid mewn termau real yn sgil methiant
Llywodraeth y DU i anrhydeddu ei hymrwymiadau a chyflwyno cyllid llawn yn lle
cyllid yr UE. 3. Yn galw ar
Lywodraeth bresennol y DU i gydnabod: a) mai’r
newidiadau i’r gyfradd sylfaenol gan Fanc Lloegr a phrisiau ynni is yw’r prif
resymau dros y gostyngiad diweddar mewn chwyddiant; b) bod y Swyddfa
Ystadegau Gwladol wedi cadarnhau bod problemau gyda’r arolwg o’r llafurlu,
sy’n parhau i effeithio ar ansawdd data o ran ystadegau’r farchnad lafur ac nad
ydynt yn cyflwyno darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru; c) y niwed sylweddol a
wnaed i’r Economi yn sgil mini-gyllideb drychinebus Liz Truss, sydd wedi golygu
bod pobl a theuluoedd yng Nghymru yn talu morgeisi a biliau uwch; a d) y cafodd y Gronfa
Ffyniant Bro a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin eu datblygu heb lawer o waith
cynllunio ac ymgynghori ac maent wedi tanseilio datganoli.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr NDM8604 Heledd Fychan (Canol
De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad
Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar
wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, sydd wedi asesu'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd ar 84 o
argymhellion a oedd wedi'u cynnwys mewn pedwar adroddiad ar wahân ers
2013. 2. Yn gresynu bod chwech
o'r 84 o argymhellion wedi'u categoreiddio'n goch, gan ddangos fawr ddim
tystiolaeth o weithredu os o gwbl, a bod 40 wedi’u categoreiddio’n ambr, gan
ddangs dim ond rhywfaint o dystiolaeth neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, dros
ddegawd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol. 3. Yn credu bod y
cynnydd a wnaed ar weithredu'r argymhellion wedi'i danseilio gan y penderfyniad
dadleuol i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau
arbennig ym mis Tachwedd 2020. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i ddarparu'r cymorth
angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn
gweithredu argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig yn llawn
ac i nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn; a b) i gyhoeddi'r cyngor
gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ac unrhyw wybodaeth
berthnasol arall gan nodi'r goblygiadau i ddarpariaeth iechyd meddwl yng
Ngogledd Cymru. Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr - Adroddiad wedi ei gynnwys o dudalen 32
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru
wedi comisiynu Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu asesiad annibynnol o'r cynnydd a wnaed
ers 2013; b) o'r 84 o argymhellion
a wnaed mewn perthynas â phedwar adroddiad blaenorol, canfu Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion fod y mwyafrif helaeth wedi cael eu gweithredu; c) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn adroddiad Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yn llawn ac y bydd yn ymateb yn ffurfiol iddo yn ei gyfarfod
Bwrdd nesaf; a d) y bydd Llywodraeth
Cymru yn parhau i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella
gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn y Gogledd fel rhan o'r
ymyrraeth mesurau arbennig. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 4: i ymddiheuro
i bobl sydd wedi colli anwyliaid a chleifion sydd wedi dod i niwed o ganlyniad
i argymhellion heb eu gweithredu a methiant i gyflawni gwelliannau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8604 Heledd Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Adroddiad Adolygiad
Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar wasanaethau iechyd
meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi
asesu'r cynnydd a wnaed gan y Bwrdd ar 84 o argymhellion a oedd wedi'u
cynnwys mewn pedwar adroddiad ar wahân ers 2013. 2. Yn gresynu bod chwech o'r 84
o argymhellion wedi'u categoreiddio'n goch, gan ddangos fawr ddim tystiolaeth o
weithredu os o gwbl, a bod 41 wedi’u categoreiddio’n ambr, gan ddangs dim ond
rhywfaint o dystiolaeth neu dystiolaeth gymedrol o weithredu, dros ddegawd ar
ôl cyhoeddi'r adroddiad terfynol. 3. Yn credu bod y cynnydd a
wnaed ar weithredu'r argymhellion wedi'i danseilio gan y penderfyniad dadleuol
i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis
Tachwedd 2020. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i ddarparu'r cymorth
angenrheidiol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn
gweithredu argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig yn llawn
ac i nodi amserlenni clir ar gyfer cyflawni hyn; a b) i gyhoeddi'r cyngor
gweinidogol a arweiniodd at y penderfyniad i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020 ac unrhyw wybodaeth
berthnasol arall gan nodi'r goblygiadau i ddarpariaeth iechyd meddwl yng
Ngogledd Cymru. Adroddiad
Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar
wasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr - Adroddiad wedi ei
gynnwys o dudalen 32 (Saesneg yn unig)
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi: a) bod Llywodraeth Cymru
wedi comisiynu Adroddiad Adolygiad Gwasanaeth Gwahoddedig Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion ar Wasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu asesiad annibynnol o'r cynnydd a wnaed
ers 2013; b) o'r 84 o argymhellion
a wnaed mewn perthynas â phedwar adroddiad blaenorol, canfu Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion fod y mwyafrif helaeth wedi cael eu gweithredu; c) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn adroddiad Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yn llawn ac y bydd yn ymateb yn ffurfiol iddo yn ei gyfarfod
Bwrdd nesaf; a d)
y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr i wella gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu yn y Gogledd fel
rhan o'r ymyrraeth mesurau arbennig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: i ymddiheuro i bobl sydd wedi colli anwyliaid a chleifion
sydd wedi dod i niwed o ganlyniad i argymhellion heb eu gweithredu a methiant i
gyflawni gwelliannau. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y
gwelliant Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei
ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig. Am 17.37, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 4 munud yn unol â
Rheol Sefydlog 12.18. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Polisi cynllunio ar gyfer llinellau pŵer newydd NDM8605 Heledd Fychan
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y
safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid gosod llinellau pŵer
newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl. 2. Yn credu, lle bynnag
y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer newydd yn cael eu gosod o dan y
ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig ceblau yn hytrach na chloddio ffos
agored. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi Cynllunio Cymru: a) i ddileu’r cafeat
presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen cymryd safbwynt cytbwys o ran
costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn
anhyfyw’; a b) er mwyn sicrhau bod
gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y ddaear yn ofyniad absoliwt yn
hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi nodi: 'dylid gosod llinellau
pŵer newydd o dan y ddaear.' Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn: Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: 2. Yn credu, lle bynnag
y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan
y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol. Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid
cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau
pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi
pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8605 Heledd
Fychan (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid
gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl. 2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer
newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig
ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi
Cynllunio Cymru: a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen
cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n
dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y
ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi
nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.'
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: 2. Yn credu, lle bynnag
y bo’n ffisegol bosibl, y dylai llinellau pŵer newydd gael eu gosod o dan
y ddaear mewn modd sy’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais
fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. Gwelliant 2 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau, yn unol â'r egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau
effaith ar iechyd gyda chynigion i osod llinellau pŵer newydd o dan y
ddaear pan fydd eu hagosrwydd at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol
yn y dyfodol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y safbwynt a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, sef y dylid
gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear lle y bo'n bosibl. 2. Yn credu, lle bynnag y bo hynny'n bosibl, pan fo llinellau pŵer
newydd yn cael eu gosod o dan y ddaear y dylid ei wneud drwy ddull aredig
ceblau yn hytrach na chloddio ffos agored. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru paragraff 5.7.9 o Bolisi
Cynllunio Cymru: a) i ddileu’r cafeat presennol: ‘Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen
cymryd safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n
dderbyniol fel arall, yn anhyfyw’; a b) er mwyn sicrhau bod gosod seilwaith trawsyrru trydan newydd o dan y
ddaear yn ofyniad absoliwt yn hytrach na safbwynt a ffefrir, dylai'r polisi
nodi: 'dylid gosod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear.' 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau, yn unol â'r
egwyddor ragofalus, y dylid cynnal asesiadau effaith ar iechyd gyda chynigion
i osod llinellau pŵer newydd o dan y ddaear pan fydd eu hagosrwydd
at gartrefi yn codi pryderon iechyd difrifol yn y dyfodol.
Fel sy’n ofynnol o dan
Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy
bleidleisio yn erbyn y cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
PDF 185 KB