Cymru Wrth-hiliol
Cymru Wrth-hiliol
Inquiry4
Mae Cynllun
Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn datgan mai ei ddiben yw
"gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig
Leiafrifol" ac mae'n nodi gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. Ar
20 Mawrth 2023, cynhaliodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sesiwn bord gron gyda
rhanddeiliaid i ganfod blaenoriaethau allweddol mewn perthynas â
gweithredu’r Cynllun Gweithredu
Cymru Wrth-hiliol [bydd y linc yn agor mewn ffenestr newydd]. Tynnodd y
rhanddeiliaid sylw at faterion yn ymwneud â’r modd y caiff y cynllun ei
weithredu a’i gyflawni’n gyffredinol, a gwnaethant fynegi pryderon yn y meysydd
polisi a ganlyn:
- Iechyd: mae pryderon yn cynnwys
defnyddio plant fel cyfieithwyr mewn lleoliadau gofal iechyd.
- Addysg: mae pryderon yn cynnwys
hiliaeth mewn ysgolion, hyfforddiant a sgiliau, bylchau cyrhaeddiad, a
rhwystrau mewn addysg uwch.
- Tai: mae pryderon yn cynnwys lefelau
isel o ymwybyddiaeth am y cynllun a diffyg ymgysylltu â landlordiaid
preifat.
- Trosedd a Chyfiawnder: pryderon
ynghylch diffyg gweithredu ar adroddiadau am hiliaeth, mynd i'r afael â
'hiliaeth bob dydd' a mathau amlwg o hiliaeth wedi'u targedu at grwpiau
penodol (gan gynnwys ymfudwyr a ffoaduriaid) ac anghymesuredd o ran hil yn
y system cyfiawnder troseddol.
Cytunodd y
Pwyllgor i archwilio’r materion hyn ymhellach drwy gynnal ymchwiliad i’r gwaith
o gyflwyno Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, gyda ffocws ar y meysydd
allweddol uchod.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad oedd:
- Ystyried effeithiolrwydd camau
Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r cynllun, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei
wneud i ‘arwain drwy esiampl’ o ran mabwysiadu dull gweithredu
rhagweithiol a thrawslywodraethol ynghylch hiliaeth.
- Ystyried cynnydd a threfniadau
monitro’r Cynllun, gan gynnwys rôl y sector cyhoeddus (awdurdodau lleol,
iechyd, addysg), y trydydd sector a, phan fo’n gymwys, y sector preifat.
- Ymchwilio i gynnydd yr Uned
Gwahaniaethau ar sail Hil, a phenderfynu a oes bylchau o ran casglu data
ac a yw’r data’n cael eu dadansoddi’n effeithiol.
- Ymchwilio i ba sianelau cyfathrebu
sydd wedi'u sefydlu i sicrhau bod pobl â phrofiad bywyd yn cael gwybod am
gynnydd y cynllun a pha newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i'r cynllun.
- Gwerthuso effeithiolrwydd y Cynllun
yn ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys a yw camau gweithredu wedi cael eu
cyflawni, beth yw'r canlyniadau allweddol hyd yn hyn, a darganfod pam na
weithredwyd camau sy’n weddill.
- Helpu i ddeall yn well pa ymyriadau
eraill sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun ac a oes
rhwystrau rhag gweithredu’r cynllun.
O ystyried
pwysigrwydd croestoriadedd, edrychodd yr ymchwiliad hefyd ar sut y cafodd
hunaniaethau croestoriadol pobl eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu'r
Cynllun.
Casglu
tystiolaeth
Roeddem am
sicrhau bod ein gwaith yn elwa ar brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy’n
adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae’r materion hyn yn affeithio
arnyn nhw.
Gwnaethom annog
pawb sydd ag arbenigedd neu brofiad o’r materion hyn i rannu eu barn, a hynny
gan wybod y byddai eu safbwyntiau’n cael eu croesawu a’u gwerthfawrogi.
Y terfyn amser ar
gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig oedd 6 Hydref 2023. Gallwch weld yr
ymatebion a gawsom ar dudalen
yr ymgynghoriad.
Cafwyd
tystiolaeth lafar gan amrywiaeth o dystion yn ystod tymor yr hydref ac, ar 4
Rhagfyr, clywodd y Pwyllgor tystiolaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
a’r Prif Chwip.
Adroddiad
Gosododd y
Pwyllgor ei adroddiad ‘Gweithredu,
nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn
2030’ (PDF, 1460KB) ddydd Gwener 15 Mawrth. Ar ôl cyhoeddi'r
adroddiad, dywedodd Jenny
Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor y canlynol:
“Mae Llywodraeth
Cymru wedi gosod y nod o geisio sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn
2030, ymhen dim ond chwe blynedd. Mae hynny'n gofyn i ni fod yn weithgar.
Gwrthsefyll, yn hytrach na derbyn y bydd gwahaniaethu hiliol yn digwydd. A
chydnabod ei bod hi'n amser ar gyfer gweithredu, nid geiriau.”
Os ydych wedi
cael eich effeithio gan unrhyw faterion o ran hiliaeth yng Nghymru ac yr
hoffech help, cofiwch fod cymorth cyfrinachol, am ddim ar gael drwy linell
cymorth BAME Cymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/07/2023
Ymgynghoriadau
- Cymru Wrth-hiliol (Wedi ei gyflawni)