Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 159(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/09/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y
Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1, 4 a 7 gan y Dirprwy Weinidog Newid
Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar
y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar
gymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Paul
Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiadau
y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan fwyaf o 2024? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.10 Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cefin Campbell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cyhoeddiad bydd y gwasanaeth
Fflecsi Bwcabus yn dod i ben, ac effaith hyn ar gymunedau Canolbarth a
Gorllewin Cymru? Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am adroddiadau y bydd ysbyty Llwynhelyg ar gau yn rhannol am y rhan
fwyaf o 2024? Am 15.45, cododd Darren Millar Bwynt o Drefn ynghylch y ffigurau y
gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyfeirio atynt yn ei
hymateb i’r Cwestiwn Amserol gan Paul Davies. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.45 Gwnaeth
Russell George ddatganiad am – Diwrnod Fferylliaeth y Byd (25 Medi). Gwnaeth
Rhys ab Owen ddatganiad am – Clwb Ifor Bach yn 40. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog - Gwneud offerynnau statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE NDM8363 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau
statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y
nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.49 NDM8363 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, Diwygio'r Rheolau Sefydlog: Gwneud offerynnau
statudol yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2023. 2.
Yn cymeradwyo'r cynigion i ddiwygio Rheolau Sefydlog 21, 27, 30B a 30C, fel y
nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn NDM8274 Rhys ab Owen (Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o
Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer
dŵr gyda'r ffin genedlaethol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr
neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i
Gymru. Cyd-gyflwynwyr Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Dileu popeth a rhoi yn
ei le 1. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017. 2. Yn cydnabod
bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, mewn llythyr wedi'i gyfeirio at
Lywodraeth y DU yn 2018, fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth. 3.
Yn croesawu parodrwydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i weithio
gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy
lywodraeth a'r diwydiant dŵr. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Ni
chynigiwyd gwelliant 1. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8274 Rhys ab Owen
(Canol De Cymru) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o
Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer
dŵr gyda'r ffin genedlaethol. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr
neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i
Gymru. Cyd-gyflwynwyr Mike Hedges
(Dwyrain Abertawe) Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1332 - Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech gwiwerod NDM8359 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1332
Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y
gwiwerod’ a gasglodd 11,306 o lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 NDM8359 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch
rhag feirws marwol brech y gwiwerod’ a gasglodd 11,306 o
lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Asedau cymunedol NDM8361 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod
asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig
at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. 2. Yn cydnabod
ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i
gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi. 3. Yn nodi adroddiad
Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod
awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy
hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau. 4. Yn gresynu nad oes
hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a
dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) diogelu asedau
cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r
gymuned leol; a b) cyflwyno Cronfa
Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu
asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd. Archwilio
Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau Cefnogwyr Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru) Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymrwymiad
hirdymor Llywodraeth Cymru i: a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi
pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol; b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau
ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch
gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac
asedau yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.59 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8361 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod
asedau cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig
at wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. 2. Yn cydnabod
ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i
gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi. 3. Yn nodi adroddiad
Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod
awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy
hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau. 4. Yn gresynu nad oes
hawl statudol i gymunedau yng Nghymru brynu tir neu asedau fel yn yr Alban, a
dim hawl i wneud cynigion, herio, nac adeiladu fel yn Lloegr. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) diogelu asedau
cymunedol drwy alluogi pobl leol i reoli ac ehangu cyfleusterau sydd o fudd i’r
gymuned leol; a b) cyflwyno Cronfa
Perchnogaeth Gymunedol a chynllun Hawl i Wneud Cynnig i gefnogi meddiannu
asedau megis llyfrgelloedd, tafarndai, canolfannau hamdden a mannau gwyrdd. Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a
hunanddibyniaeth cymunedau Cefnogwyr Natasha Asghar (Dwyrain De
Cymru)
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20,
defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig heb
ei ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwyntiau 4 a 5 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymrwymiad
hirdymor Llywodraeth Cymru i: a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi
pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol; b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau
ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch
gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac
asedau yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8361 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod asedau
cymunedol yn gweithredu fel hybiau lleol ac yn darparu mynediad pwysig at
wybodaeth, gwasanaethau, sgiliau a phrofiadau cymdeithasol. 2. Yn cydnabod
ymhellach fod asedau cymunedol yn gwella cydlyniant cymunedol ac yn caniatáu i
gymunedau lleol gymryd rheolaeth dros lunio'r ardal y maent yn byw ynddi. 3. Yn nodi adroddiad
Archwilio Cymru ar gydnerthedd a hunanddibyniaeth cymunedau, sy’n nodi bod
awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd grymuso pobl a chymunedau i fod yn fwy
hunanddibynnol ac yn llai dibynnol ar wasanaethau. 4. Yn croesawu
ymrwymiad hirdymor Llywodraeth Cymru i: a) amddiffyn asedau cymunedol drwy alluogi
pobl leol i gynnal ac ehangu cyfleusterau sydd er budd i’r gymuned leol; b) cydnabod, hyrwyddo a rhannu arferion gorau
ar draws y sector cyhoeddus drwy Ystadau Cymru; ac c) sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol â chylch
gorchwyl i ysgogi syniadau arloesol pellach ar berchnogaeth gymunedol o dir ac
asedau yng Nghymru. Archwilio Cymru: 'Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a
hunanddibyniaeth cymunedau
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd NDM8362 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn datgan nad oes
ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf
erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r
gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8362 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: Yn datgan nad oes
ganddi hyder yn y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd o ystyried y nifer uchaf
erioed o lofnodwyr i'r ddeiseb: 'Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu’r gyfraith
drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya'. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.28 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8360 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru) Y
'Draen Dawn' yng Nghymru: Heriau ac Atebion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.34 NDM8360 Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru) Y
'Draen Dawn' yng Nghymru: Heriau ac Atebion |