NDM8274 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn
NDM8274 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Datganoli dŵr yn llawn
NDM8274 Rhys ab Owen (Canol De
Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol i Lywodraeth y DU gychwyn adran 48(1) o
Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio'r ffin cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer
dŵr gyda'r ffin genedlaethol.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ofyn yn ffurfiol am y pwerau i drwyddedu cyflenwad dŵr
neu drwyddedai carthffosiaeth a thrwy hynny ddatganoli dŵr yn llawn i
Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Mike Hedges (Dwyrain
Abertawe)
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn:
Gwelliant 1 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le
1. Yn nodi bod
Llywodraeth Cymru wedi gofyn am ohirio deddfu adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017.
2. Yn cydnabod
bod Llywodraeth Cymru wedi dweud, mewn llythyr wedi'i gyfeirio at
Lywodraeth y DU yn 2018, fod y broses o sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y
Senedd yn cyd-fynd â ffiniau daearyddol yn gymhleth.
3.
Yn croesawu parodrwydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU i weithio
gyda'u cymheiriaid yng Nghymru i gytuno ar amserlen sy'n gweithio orau i'r ddwy
lywodraeth a'r diwydiant dŵr.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/10/2023