Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 126
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 8 a 10 gan Ddirprwy Weinidog y
Celfyddydau a Chwaraeon. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.15 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
ac atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r
Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw
drafodaethau gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol
yn Llaneirwg? Cofnodion: Mynegodd
y Llywydd gydymdeimlad, ar ran y Senedd, â theulu a chyfeillion y rhai a oedd
yn y gwrthdrawiad angheuol yn Llaneirwg y penwythnos blaenorol, a oedd yn
destun y Cwestiwn Amserol. Dechreuodd
yr eitem am 15.04 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw
drafodaethau gyda Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol
yn Llaneirwg? |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gwnaeth
Natasha Asghar ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Gwnaeth
Russell George ddatganiad am - Dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Y
Drenewydd: I anrhydeddu 70 mlynedd o Laura Ashley. Gwnaeth
Jack Sargeant ddatganiad am - Helen Ward: Prif sgoriwr goliau Cymru sydd wedi
datgan ei bod yn ymddeol o bêl-droed. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod yr arfer
cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion ledled Cymru yn
peryglu data personol a phreifatrwydd plant. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n: a) sicrhau bod Erthygl
16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl
plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru; b) sicrhau bod
ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn
fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau
biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant; c) sicrhau bod
asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau
addysgol yn cael eu rhoi ar waith; d) cydnabod y niwed
posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig; e) cydnabod diffyg
caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometrig o fewn
ysgolion. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar Ogwr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi bod yr arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion
ledled Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n: a)
sicrhau bod Erthygl 16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r
Plentyn, sef hawl plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn
Cymru; b)
sicrhau bod ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad
ydynt yn fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau
biometrig a allai beryglu diogelwch data biometrig plant; c)
sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn
lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith; d)
cydnabod y niwed posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometrig; e)
cydnabod diffyg caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata
biometrig o fewn ysgolion. Cyd-gyflwynwyr Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cefnogwyr Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau - Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng
Nghymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror
2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8216 Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio
milgwn yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 15 Rhagfyr 2022. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Chwefror 2023. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr adolygiad ffyrdd NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad panel
adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y
diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr
etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr
adolygiad. 3. Yn credu bod
argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn
prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd,
mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd
yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Dyfodol
buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod yr angen
am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni
allyriadau sero-net cyn 2050. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth
gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy
o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.49 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad panel
adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y diffyg
ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig,
awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr
adolygiad. 3. Yn credu bod
argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn
prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd,
mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd
yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu. Dyfodol
buddsoddiad ffyrdd yng Nghymru
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y
sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy
brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan
gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu
di-garbon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8218 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi adroddiad panel
adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y diffyg
ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig,
awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr
adolygiad. 3. Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical
yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero-net cyn 2050. 4. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus
ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad
at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.04 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8217 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cenedl
sy'n cydsefyll: Cymru'n sefyll gyda phobl Armenia Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 NDM8217 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Cenedl sy'n cydsefyll:
Cymru'n sefyll gyda phobl Armenia |