NDM8131 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion
NDM8131 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Data biometrig mewn ysgolion
NDM8131 Sarah Murphy (Pen-y-Bont ar
Ogwr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod yr
arfer cyffredinol o gasglu a defnyddio data biometreg mewn ysgolion ledled
Cymru yn peryglu data personol a phreifatrwydd plant.
2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n:
a) sicrhau bod Erthygl
16 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef hawl
plentyn i breifatrwydd, yn cael ei gadarnhau o fewn Cymru;
b) sicrhau bod
ysgolion a lleoliadau gofal plant yn defnyddio technolegau nad ydynt yn
fiometrig ar gyfer gwasanaethau, yn hytrach na defnyddio systemau
biometrig a allai beryglu diogelwch data biometreg plant;
c) sicrhau bod
asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau
addysgol yn cael eu rhoi ar waith;
d) cydnabod y niwed
posibl o'r defnydd anrheoledig o ddata biometreg;
e) cydnabod diffyg
caniatâd pobl ifanc a phlant o fewn y defnydd cyfredol o ddata biometreg o fewn
ysgolion.
Cyd-gyflwynwyr
Jane Dodds (Canolbarth a
Gorllewin Cymru)
Cefnogwyr
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2023