Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 120
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 08/02/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy
gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-6 ac 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Atebwyd cwestiynau 1 ac 8 gan y
Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu
yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU
ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael
eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Russell
George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnig cyflog newydd
a gynigiwyd i weithwyr y GIG gan Lywodraeth Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu
yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU
ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael
eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn? Atebwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnig cyflog newydd
a gynigiwyd i weithwyr y GIG gan Lywodraeth Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.41 Gwnaeth
Huw Irranca-Davies ddatganiad am - Llwybrau i Lesiant, prosiect Cymru gyfan
sy’n datblygu llwybrau cerdded gyda gwirfoddolwyr, yn dod i ben. Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatganiad am - Can mlynedd o ddarlledu radio yng Nghymru. Roedd
pen-blwydd y darllediad cyntaf gan y Wireless Orchestra a gafodd ei wneud o
ystafell uwchben siop yng Nghaerdydd ddydd Llun 13 Chwefror. Gwnaeth
Joel James ddatganiad am - Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (6-12 Chwefror),
gan dynnu sylw at ddau berson ifanc yn ei ranbarth sydd wedi cael
prentisiaethau, ac un ohonynt wedi ennill gwobr prentis y flwyddyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Absenoldebau disgyblion NDM8195 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldeb
Disgyblion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd
2022. Nodyn:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 NDM8195 Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldeb Disgyblion',
a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2022. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Porthladdoedd rhydd NDM8200 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y cyfleoedd
i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel,
hyrwyddo adfywio a buddsoddi. 2. Yn nodi bod tri
chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau
borthladd rhydd yng Nghymru, gan gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a
gyflwynwyd a'r manteision trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi
Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod bod
porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn
cael eu gadael ar ôl a bod angen buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir. 2. Yn cydnabod
ymhellach fod cymunedau arfordirol yn wynebu problemau strwythurol hir dymor
amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dlodi a newidiadau
amgylcheddol. 3. Yn nodi polisi
porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig
gwreiddiol Llywodraeth y DU. 4. Yn nodi ymhellach y
cyflwynwyd tri chais o Gymru i'w
hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod awdurdodau lleol a
phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu sy'n adlewyrchu
anghenion eu cymunedau. 5. Yn credu bod angen
ymateb ehangach i'r materion sy'n wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys
gwella seilwaith a mesurau i fynd i'r afael â thlodi. 6. Yn galw ar
Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir
ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r
afael â'r problemau sy'n eu hwynebu. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod y tri
chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth
y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd
Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn
benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion
Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8200 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y cyfleoedd i
borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel,
hyrwyddo adfywio a buddsoddi. 2. Yn nodi bod tri chais o
Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan
gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a gyflwynwyd a'r manteision
trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod bod porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau
glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn cael eu gadael ar ôl a bod angen
buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir. 2. Yn cydnabod ymhellach fod cymunedau arfordirol yn
wynebu problemau strwythurol hir dymor amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i, dlodi a newidiadau amgylcheddol. 3. Yn nodi polisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU
a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU. 4. Yn nodi ymhellach y cyflwynwyd tri chais o
Gymru i'w hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod
awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu
sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau. 5. Yn credu bod angen ymateb ehangach i'r materion sy'n
wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys gwella seilwaith a mesurau i fynd
i'r afael â thlodi. 6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i
gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn
ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu
gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd
ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd
canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth
Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw. Y Rhaglen
Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8200 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y cyfleoedd i
borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel,
hyrwyddo adfywio a buddsoddi. 2. Yn nodi bod tri chais o
Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y
DU. 3. Yn nodi bod y tri chynnig a
gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn
unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng
Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd
rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o
broses agored a thryloyw. Y Rhaglen
Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm NDM8199 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu fod cyfyngiadau
presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio
polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng
costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. 2. Yn credu y dylai'r
Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei
hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan
Ddeddf yr Alban 2012. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth
Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn
galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm
Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth
Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau
effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin
â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer
cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn credu fod cyfyngiadau
presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio
polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng
costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus. 2. Yn credu y dylai'r Senedd
feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn
unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr
Alban 2012. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau
a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl
gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol
y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio
polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i
huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol
y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio
polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. 2. Yn cefnogi dull Llywodraeth
Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i
huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.25 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8196 Russell George
(Sir Drefaldwyn) Manteision
ymchwil meddygol yng Nghymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.31 NDM8196 Russell George
(Sir Drefaldwyn) Manteision ymchwil
meddygol yng Nghymru |