NDM8199 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
NDM8199 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
NDM8199 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau presennol pwerau
amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio polisïau effeithiol yng
Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, a'r
argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd
datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd
eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 2012.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a
amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o
bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau
ar gyfer Treth Incwm Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn
cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau
amrywio trethi i helpu i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr
argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin
â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer
cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2023