Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 117
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 25/01/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod
hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno
drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 6 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gofynnwyd
y ddau gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru
ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau
ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil
trigolion Cymru? Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon James
Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi
Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt
gan y BBC? Gofyn i Weinidog yr Economi Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad
cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.19 Atebwyd
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru
ynghylch a yw prosesu cannoedd o warantau llys ar y tro, gan ganiatáu i gwmnïau
ynni osod mesuryddion rhagdalu heb wiriadau unigol, yn torri hawliau sifil
trigolion Cymru? Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi
Cymru ynglŷn â'r honiadau o ddiwylliant rhywiaethol yr adroddwyd arnynt
gan y BBC? Atebwyd gan Weinidog yr Economi Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn ymateb i gyhoeddiad
cwmni 2 Sisters Food Group am ei ymgynghoriad i gau ei safle yn Llangefni? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.11 Gwnaeth
Samuel Kurtz ddatganiad am - Y cytundeb cydweithio rhwng ColegauCymru a Bwrdd
Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a lofnodwyd yng Ngholeg Sir Benfro. Gwnaeth
Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Ugain mlynedd o fodolaeth y gwasanaeth O Ddrws
i Ddrws ym Mhen Llŷn, menter gymunedol sy’n darparu trafnidiaeth
gyhoeddus. Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Wythnos Atal Canser Ceg y Groth (23-29 Ionawr). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am
16.15 NNDM8192 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Mark Isherwood
(Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn
lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil ar leihau ôl-troed carbon digidol NDM8155 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig am
Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) ymateb i’r angen i fod
yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i
gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol; b) cynnwys strategaeth
i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn ffordd fwy effeithlon
o ran defnydd ynni; c) gosod targedau ar
gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon,
yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny
gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru; d) sicrhau bod
cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff
cyhoeddus; e)
annog arloesi yn i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero
cenedlaethol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8155 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru,
fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg
platfformau digidol; b)
cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael eu creu, eu cadw a’u prosesu mewn
ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni; c)
gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf
effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a
thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru; d)
sicrhau bod cynaladwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data
gan gyrff cyhoeddus; e)
annog arloesi i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero
cenedlaethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon NDM8189 Delyth Jewell
(Dwyrain De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol, ‘Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a chwaraeon’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Tachwedd
2022. Nodyn:
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 NDM8189 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Costau cynyddol: Yr effaith ar ddiwylliant a
chwaraeon’, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 25 Tachwedd 2022. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Ionawr 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Lleihau'r pwysau ar y GIG NDM8188 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi sylwadau Conffederasiwn
GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag ef. 2. Yn cefnogi
ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt
ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG
gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i: a) datrys anghydfodau
cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y
GIG yng Nghymru; b) strategaeth
gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd,
gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth; c) rhoi mesurau iechyd
ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n
gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth; d) gwella gwytnwch ar
y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal
cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r
ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac e)
gwella gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn
y GIG, gan gynnwys drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud
newid go iawn. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith
bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a
gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi
yn ei le: Yn nodi'r camau sy'n
cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol
sy’n cynnwys: a) cyhoeddi
buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i
weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023; b) yr ymrwymiad i
gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023; c) y gwaith sydd ar y
gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol; d) y flaenoriaeth sy’n
cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol; e) y rhaglen diwygio
contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol; f) y symud tuag at
wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru; g) y modelau sy'n cael
eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o
greu capasiti cymunedol; h) y gwaith sydd ar y
gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned; i) rhoi Gweithrediaeth
y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru. Os derbynnir gwelliant
2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Gwelliant 3 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Yn is-bwynt 3(b), dileu
'dynnu elw o weithio asiantaeth' a rhoi yn ei le 'gapio cyfraddau cyflog
asiantaeth'. Gwelliant 4 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei diwygio i
sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.39 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi sylwadau
Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag
ef. 2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol
gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn
amgylchiadau heriol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG gyda mesurau
sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i: a) datrys anghydfodau cyflog
cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i weithwyr y GIG yng
Nghymru; b) strategaeth gyflawni glir
gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd, gan gynnwys
camau i dynnu elw o waith asiantaeth; c) rhoi mesurau iechyd ataliol
wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig ag
iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth; d) gwella gwytnwch ar y pwynt
rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi ar ofal cymdeithasol
drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth
gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac e) gwella gweithio mewn
partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG, gan gynnwys
drwy roi'r pŵer i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at y ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth
Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol mewn termau real
yn 2023-2024. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn nodi'r camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru,
GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n cynnwys: a) cyhoeddi buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn
cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr
2023; b) yr ymrwymiad i gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn
diwedd Ionawr 2023; c) y gwaith sydd ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu
gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol; d) y flaenoriaeth sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a
gweithio gydag awdurdodau lleol; e) y rhaglen diwygio contractau sy’n digwydd ar draws
gofal sylfaenol; f) y symud tuag at wasanaeth gofal cymunedol integredig
sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru; g) y modelau sy'n cael eu datblygu drwy'r gronfa
integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o greu capasiti
cymunedol; h) y gwaith sydd ar y gweill i gynyddu capasiti
ailalluogi yn y gymuned; i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella
ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2 wedi ei dderbyn, cafodd
gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Gwelliant
4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol
yn cael ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi sylwadau
Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd ymdopi ag
ef. 2. Yn cefnogi ymdrechion arwrol
gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt ddarparu gofal mewn
amgylchiadau heriol. 3. Yn nodi'r camau sy'n cael eu
cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth leol sy’n
cynnwys: a) cyhoeddi buddsoddiad o
£281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd
proffesiynol ar 18 Ionawr 2023; b) yr ymrwymiad i gyhoeddi
cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023; c) y gwaith sydd ar y gweill
gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol ychwanegol; d) y flaenoriaeth sy’n cael ei
rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol; e) y rhaglen diwygio contractau
sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol; f) y symud tuag at wasanaeth
gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o Gymru; g) y modelau sy'n cael eu
datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol o
greu capasiti cymunedol; h) y gwaith sydd ar y gweill i
gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned; i) rhoi Gweithrediaeth y GIG ar
waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i bobl yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.56 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8168 Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy) Cefnogi
pobl mewn argyfwng costau byw Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.02 NDM8168 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cefnogi pobl mewn
argyfwng costau byw |