NDM8188 Dadl Plaid Cymru
NDM8188 Dadl Plaid Cymru
NDM8188 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y
Senedd:
1. Yn nodi
sylwadau Conffederasiwn GIG Cymru fod GIG Cymru yn wynebu pwysau nad oes modd
ymdopi ag ef.
2. Yn cefnogi
ymdrechion arwrol gweithwyr y sector iechyd a gofal yng Nghymru wrth iddynt
ddarparu gofal mewn amgylchiadau heriol.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth i leihau'r pwysau sy'n wynebu'r GIG
gyda mesurau sy'n cynnwys, ond nad ydynt yn gyfyngedig i:
a) datrys
anghydfodau cyflog cyfredol drwy ddyfarnu cynnig cyflogau gwell a sylweddol i
weithwyr y GIG yng Nghymru;
b) strategaeth
gyflawni glir gyda thargedau a chostau llawn, ar gyfer cynllun gweithlu newydd,
gan gynnwys camau i dynnu elw o waith asiantaeth;
c) rhoi mesurau
iechyd ataliol wrth wraidd pob polisi a gweithgaredd Llywodraeth Cymru sy'n
gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys pob adran o'r Llywodraeth;
d) gwella
gwytnwch ar y pwynt rhyngweithio rhwng iechyd a gofal, gan dynnu'r pwysau oddi
ar ofal cymdeithasol drwy fwy o gapasiti cam i lawr y GIG, yn ogystal ag
ehangu'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hwy; ac
e) gwella
gweithio mewn partneriaethau, cyd-gynhyrchu atebion a darpariaeth o fewn y GIG,
gan gynnwys drwy roi'r pŵer
i weithrediaeth newydd y GIG wneud newid go iawn.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y
ffaith bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnig torri'r gyllideb iechyd
a gofal cymdeithasol mewn termau real yn 2023-2024.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a
rhoi yn ei le:
Yn nodi'r camau
sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, GIG Cymru a phartneriaid llywodraeth
leol sy’n cynnwys:
a) cyhoeddi
buddsoddiad o £281m, y mwyaf erioed, mewn cyllidebau addysg a hyfforddiant i
weithwyr iechyd proffesiynol ar 18 Ionawr 2023;
b) yr ymrwymiad i
gyhoeddi cynllun y gweithlu erbyn diwedd Ionawr 2023;
c) y gwaith sydd
ar y gweill gan y pwyllgor gweithredu gofal i greu gwelyau cymunedol
ychwanegol;
d) y flaenoriaeth
sy’n cael ei rhoi i ryddhau cleifion a gweithio gydag awdurdodau lleol;
e) y rhaglen
diwygio contractau sy’n digwydd ar draws gofal sylfaenol;
f) y symud tuag
at wasanaeth gofal cymunedol integredig sydd ar gael i bawb ym mhob rhan o
Gymru;
g) y modelau sy'n
cael eu datblygu drwy'r gronfa integreiddio rhanbarthol sydd â’r bwriad penodol
o greu capasiti cymunedol;
h) y gwaith sydd
ar y gweill i gynyddu capasiti ailalluogi yn y gymuned;
i) rhoi
Gweithrediaeth y GIG ar waith, a fydd yn gwella ansawdd a diogelwch gofal i
bobl yng Nghymru.
Os derbynnir
gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt 3(b),
dileu 'dynnu elw o weithio asiantaeth' a rhoi yn ei le 'gapio cyfraddau cyflog
asiantaeth'.
Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu fel
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol yn cael
ei diwygio i sicrhau cynnydd mewn termau real yn 2023-24.
Math o fusnes: Dadl
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/08/2023