Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 103 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2022 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2, atebwyd gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.

 

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2, 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 15.10 cododd Joyce Watson Bwynt o Drefn ynghylch ymddygiad Gareth Davies yn ystod cwestiynau’r llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai’n disgwyl ymddiheuriad gan Gareth Davies, cyn y byddai’n cael ei alw i gymryd rhan yn nhrafodion y Siambr.

Am 15.13 cododd Huw Irranca-Davies Bwynt o Drefn ynghylch defnyddio cwestiynau’r llefarwyr i godi mater etholaethol. Ymatebodd y Llywydd mai mater i’r grwpiau pleidiau yw penderfynu sut i ddefnyddio’u cwestiynau llefarwyr ac, felly, mae’n ystyried bod y cwestiynau yn dderbyniol. Byddai’n ystyried y mater hwn ymhellach.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Weinidog yr Economi

Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Atebwyd gan Weinidog yr Economi

Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad am - Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 (14-20 Tachwedd).

Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Diwrnod Diabetes y Byd (14 Tachwedd).

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.29

NNDM8135 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:

1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

2. Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

3. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Deisebau

Dechreuodd yr eitem am 15.29.

NNDM8134 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhys ab Owen (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(0 munud)

5.

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 - Tynnwyd yn ôl

NDM8124 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

(60 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cysylltedd digidol – band eang

NDM8123 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol – band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

NDM8123 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol – band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.

Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

7.

Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Pwysau costau byw

NDM8129 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.18

NDM8129 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Toiledau Changing Places

NDM8126 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.12

NDM8126 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(30 munud)

9.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deddf Diogelwch Adeiladau 2022

NDM8127 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru.

Dogfennau Ategol

Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8127 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru.

Dogfennau Ategol

Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

28

55

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

10.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.05

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM8125 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Rasio ceffylau: ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.07

NDM8125 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Rasio ceffylau: ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru